Rydw i wrthi'n paratoi cyfrol a gyhoeddir y flwyddyn nesaf, 2007, gan wasg Carreg Gwalch - Llythyrau'r Wladfa. Os oes gennych unrhyw lythyr gan rywun o'r Wladfa, neu lythyr yn trafod rhyw agwedd ar y Wladfa, tybed a fuasai'n bosib i mi gael ei ddarllen?
Gall y llythyr fod yn ddigri neu'n ddwys, yn fyr neu'n faith. Bydd y pwyslais ar lythyrau diddorol yn hytrach na rhai "llenyddol".
Bwriad y gyfrol yw dangos y llythyr fel cyfrwng o gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg - a hynny, gobethio, mewn ffordd ddifyr a darllenadwy.
E-byst hefyd Erbyn hyn, mae'r arfer o lythyru yn diflannu. Dyma gyfnod yr e-bost a'r neges testun. Fe hoffwn i gynnwys llythyrau e-bost hefyd os yn bosib. Felly os oes gennych hen negeseuon e-bost gan ffrindiau o'r Wladfa, neu rai 'rydych chi wedi eu hanfon i'r Wladfa - os gwelwch yn dda - peidiwch a'u dileu!
Rydw i hefyd yn paratoi cyfrolau ar: Lythyrau Rhyfel, Llythyrau Caru, Llythyrau Teulu, Llythyrau'r Môr, Llythyrau Gwleidyddol a Chenedlaetholgar, Llythyrau Geni a Marwolaeth a Llythyrau Dathlu a Llongyfarch!
Felly os oes gennych unrhyw lythyrau Cymraeg fyddai'n addas i un o'r penawdau yma - cofiwch amdana i!
Fe gymeraf bob gofal o unrhyw lythyr a dderbyniaf.
Gellir anfon ataf, trwy lythyr, i'r cyfeiriad isod, neu gysylltu a mi trwy e-bost: mari.emlyn@btinternet.com neu deleffonio 07811143075.
Gyda diolch rhag blaen,
Yn gywir iawn,
Mari Emlyn, Gwynfryn, Pen y Bryn, Y Felinheli. Gwynedd LL564YQ.
|