Mae cylchgronau Cymraeg yn cael derbyniad cynnes iawn yn yr Andes.
Ers sawl blwyddyn bu Golwg, er enghraifft, yn anfon copïau o'r cylchgrawn yno a chael eu defnyddio fel deunyddiau dysgu yn y ddwy ysgol yn Esquel a Threvelin.
"Mae o a chyhoeddiadau eraill yn destun cryn fwynhad i'r dysgwyr a'r athrawon," meddai Gill Stephen sy'n athrawes Gymraeg yno.
"Er mwyn rhannu'r mwynhad hwn penderfynodd Pwyllgor Ysgol Gymraeg Trevelin rannu ôl rifynnau - fyddwn ni byth yn eu taflu! - gyda'r gymuned leola'r wythnos ymwelodd criw o blant bach Ysgol Gymraeg Trevelin â rhai o drigolion El Hogar, cartref i'r henoed yn Nhrevelin.
"Cafwyd awr fach braf iawn gyda'r plant yn canu ac yn siarad â'r rhai sy'n byw yno," meddai.
Ymhlith y preswylwyr yr oedd Mrs Menna Evans de Williams, 87 oed, sy'n Cymraeg fel mamiaith.
"Yr oedd yn arbennig o hapus clywed y plant yn canu caneuon ei phlentyndod," meddai Gill.
Ychwanegodd bod yr ymweliad yn rhan o gynllun i ddosbarthu cylchgronau a llyfrau Cymraeg i gartrefi yr henoed, ystafelloedd aros meddygon a deintyddion, ysgolion eraill ayb yn Nhrevelin a'r cyffiniau er mwyn codi proffil y Gymraeg ac ymwybyddiaeth ohoni yn yr ardal.
|