Wrth gyflwyno adroddiad am lwyddiant cynllun dysgu Cymraeg a sefydlwyd yno yn 1997 dywedodd yr Athro Robert Owen Jones wrth gyfarfod blynyddol Cymdeithas Cymru Ariannin yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005 fod 600 o bobl yn mynychu dosbarthiadau Cymraeg bob blwyddyn yno.
Ond hyd yn oed wedyn dywedodd mai dim ond megis dechrau y mae'r gwaith o adfer yr iaith. Dywedodd wrth aelodau Cymdeithas Cymru Ariannin i 730 o bobl o bob oed fynychu dosbarthiadau a gynhaliwyd gan athrawon o Gymru yn 2001.
Trafferthion economaidd Fodd bynnag, yn sgil trafferthion economaidd yr Ariannin y blynyddoedd ers hynny, bu rhywfaint o ostyngiad yn y niferoedd.
Ond hyd yn oed wedyn, meddai, mae'r cyfartaledd yn 600 y flwyddyn.
"Yn 2004 yr oedd yna 57 o ddosbarthiadau yn cyfarfod rhwng un a phedair gwaith yr wythnos.
"Yr oedd hynny 125 awr yr wythnos o ddosbarthiadau Cymraeg gyda'r rhai oedd yn eu mynychu yn amrywio o ddwy i 80 oed," meddai.
Cyfle i siarad Er y gellir disgrifio nifer o fynychwyr y dosbarthiadau hyn yn ddysgwyr y mae eraill yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn manteisio ar y cyfle i gymysgu a'i gilydd drwy gyfrwng y Gymraeg.
"A chael rhywbeth na chawson nhw ddim yn ystod eu mebyd eu hunain," meddai am yr aelodau hynaf o'r dosbarthiadau.
Heb amheuaeth y prif sbardun i'r diddordeb newydd yn y Gymraeg ym Mhatagonia yw cynllun a weinyddir gan y Cyngor Prydeinig i anfon athrawon Cymraeg yno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfrannu at y gost.
Ar hyn o bryd mae hysbyseb yn y wasg am dri o athrawon newydd ar gyfer 2006.
Ysgolion meithrin Yn sgil gweithgarwch athrawon dros y chwe blynedd ddiwethaf dywedodd Robert Owen Jones, sy'n arolygu'r gwaith ar ran y Cynulliad, fod ysgolion meithrin "wedi ennill eu tir" yn sylweddol gyda'r oriau dysgu wedi ymestyn o dair awr yr wythnos i 13 awr.
Ar ben hynny dywedodd fod pob disgybl mewn dwy ysgol uwchradd yn cael gwersi Cymraeg wythnosol ac y mae gweithgarwch pellach mewn ysgolion cynradd.
"Y mae hyn yn rhywbeth na fyddai wedi gallu digwydd ddeng mlynedd yn ôl yn Y Wladfa," meddai.
Teyrnged i athrawon Talodd deyrnged hael i'r gwaith a gyflawnwyd gan yr athrawon Cymraeg sydd wedi treulio cyfnodau yn amrywio o flwyddyn i ddwy flynedd yno.
"Mae yna lot o bethau yn codi calon dyn ," meddai Robert Owen Jones gan gyfeirio at y modd y mae holl gymdeithaseg y Gymraeg wedi newid.
"Erbyn heddiw mae'r hen syniad o israddoldeb a chywilydd o fedru siarad Cymraeg wedi mynd - mae llawer mwy o barch at yr iaith erbyn hyn," meddai.
"Ond dydi'r gwaith ddim yn dalcen hawdd ac mae'r athrawon wedi gwneud yn arbennig o dda efo adnoddau prin ryfeddol.
"Nid mater hawdd yw mynd allan yno. Y mae'n fater o newid patrwm bywyd yn gyfangwbl," meddai.
Gallai'r patrwm hwnnw olygu cynnal dosbarth cyntaf y dydd rhwng saith a naw y bore a'r olaf cyn hwyred â naw y nos," meddai.
Nid chwarae "Ac y mae llawer mwy o waith i'w wneud eto," rhybuddiodd.
"Nid yno i chwarae efo'r iaith y maen nhw ond yno i greu pobl ddwyieithog," meddai gan ychwanegu fod ymestyn gweithgareddau cymdeithasol yn y Gymraeg yn rhan o'r her hefyd.
Ond yr oedd yn amlwg oddi wrth ei anerchiad fod ymdeimlad o'r Gymraeg yn mynd o nerth i nerth mewn rhan o'r byd lle yr oedd i bob diben wedi marw ar un adeg gyda thuedd ymhlith rhieni'r pumdegau i wrthod trosglwyddo'r iaith i'w plant gan beri i'r iaith droi yn un gyfrinachol bron ac un i osgoi ei harddel yn gyhoeddus.
Pan dreuliodd Robert Owen Jones flwyddyn yn astudio'r Gymraeg yno yn 1973-4 fe'i hargyhoeddwyd ei fod yn dyst i'w marwolaeth.
Mor wahanol yw pethau heddiw gyda hyd yn oed rhai nad ydynt o waed Cymreig yn mynychu dosbarthiadau.
Tair blynedd i ddechrau Sefydlwyd y Cynllun Dysgu Cymraeg sydd mor llwyddiannus am dair blynedd yn 1997 ond bu mor llwyddiannus y mae'n awr wedi ei ymestyn hyd at ddiwedd 2008.
Bob blwyddyn mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia yn tynhau.
Ond gofidiodd Robert Owen Jones fod y gyllideb ar gyfer y cynllun yn parhau yr un heddiw ag oedd yn 1997.
"Mae angen mwy o gyllideb," meddai.
Cyn dyfodiad y Cynllun Dysgu Cymraeg yn '97 bu gwirfoddolwyr fel Cathrin Williams a Gwilym Roberts yn cynnal dosbarthiadau ac yn braenaru'r tir.
|