Cathrin Williams yn cofio Ieuan May Jones Roedd y cyntaf o Fedi 2005 yn ddiwrnod du iawn yn Nolavon, y Wladfa, ac i bawb yma yng Nghymru oedd wedi cael y fraint o adnabod Ieuan Jones.
Roedd yn bnawn fel unrhyw bnawn arall yno a Ieuan, yn ôl ei arfer, wedi mynd am dro ar gefn beic gyda'i frawd, Camwy. Dim ond Camwy ddaeth yn ôl.
Trawyd Ieuan oddi ar ei feic gan fan fechan a'i ladd yn syth. Gydag un weithred chwalwyd teulu a chymdeithas a gadawyd bwlch na ellir byth ei lenwi.
Mae'n syn cymaint o bobl Cymru fydd yn ymdeimlo â'r golled hon ac yn teimlo chwithdod gwirioneddol oherwydd yr hyn ddigwyddodd bellter byd i ffwrdd. Ond fel yna y mae hi, a hynny oherwydd i gymaint o bobl gael croeso ar aelwyd ddifyr a chynnes Ieuan ac Eryl.
Gwybodaeth drylwyr Dyn ei deulu oedd Ieuan. Eryl a'r plant, yr wyrion a'r wyresau, hwy oedd yn llenwi ei fywyd, ond roedd lle hefyd i bawb ddeuai ar ei ofyn am gymwynasau lu.
Roedd ganddo wybodaeth drylwyr iawn am ei ardal, am Dir Halen ble cafodd ei fagu ac am Ddolavon ble bu'n byw gyhyd. Gwyddai am hen feirdd a llenorion y Wladfa ac roedd wrthi ar hyn o bryd yn casglu gwaith rhai ohonyn nhw rhag iddo fynd yn angof.
Roedd iddo swydd fel cynrychiolydd cyfreithiol yn Ysgol Uwchradd William Morris a gwasanaethai mewn angladdau fel y byddai'r galw.
Roedd yn un o ddisgynyddion Aaron Jenkins, un o'r Hen Wladfawyr , a hanai rhan Gymreig ei deulu o Gwm Rhondda a Merthyr Tudful.
Agor siop O ran ei alwedigaeth bu'n gweithio dros ugain mlynedd yn y banc, ac wedi ymddeol agorodd siop fechan yn ystafell ffrynt y tŷ yn Nolavon.
Gan nad oedd yn ddyn i fod yn segur byddai'n barod i helpu Eryl gyda'i gwaith gwnïo pan fyddai angen ac enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod y Wladfa am wneud cwilt ar gyfer gwely.
Ond llenydda oedd ei bethau o, ac er nad oedd o'i hun yn barod i gredu hynny, roedd ganddo ddawn hyfryd i droi llun yn eiriau ac enillodd lawer gwobr yn Eisteddfod y Wladfa dros y blynyddoedd.
Nid ceffyl blaen oedd Ieuan, nid un yn dymuno cael sylw a chael ei weld. Roedd iddo ryw fwynder a gwyleidd-dra anghyffredin, ond er yn ddyn distaw roedd hefyd yn ddyn cadarn iawn.
Bydd colled ar ei ôl mewn sawl cylch ar fywyd y Wladfa, ond yn bennaf ar yr aelwyd ac ymysg ei deulu. Efallai y bydd yn gysur i Eryl a'r plant wybod y bydd cymaint o bobl na wnaethon nhw fawr fwy na galw i mewn ar yr aelwyd honno yn ymdeimlo â'u colled.
|