Ddydd Sul, Medi 10, 2006, bu farw Marta Rees, y Gaiman.
Ie, Marta Rees, y Gaiman, ond cafodd ei magu'n rhannol yn Comodoro gan i deulu yno ei chymryd atynt wedi marw ei mam.
Afrikaans oedd iaith y teulu hwnnw a dyna ail iaith Martha, gyda Saesneg yn drydedd iaith a Chymraeg yn cloffi yn y gynffon.
Yn y cyfnod pan oedd Marta'n ifanc roedd llawer o fechgyn o'r Dyffryn yn gweithio yn Comodoro Rivadavia, ac yn eu plith Gwyn Rees, yr oedd ei fam yn berchen tŷ te Plas y Coed, y Gaiman. Dyma briodi, ac ymhen blynyddoedd, a Dilys Jones, mam Gwyn, bellach wedi marw, ddod yn ôl i'r Gaiman a rhedeg y tŷ te.
Dod yn enwog Yno y bu Gwyn a Marta am flynyddoedd a daeth Plas y Coed yn enwog drwy'r ardal ac yng Nghymru am ei groeso cynnes, ei fwyd ardderchog a'i ardd oedd gyda'r brydferthaf yn y Dyffryn.
Yn wir, deuai pobl yno yn unswydd er mwyn tynnu lluniau'r blodau y bu Gwyn mor ddyfal yn eu tyfu.
Ond Marta oedd brenhines y gegin a'r tebot! Unwaith yr oedd y bara menyn wedi ei dorri doedd dim yn rhoi mwy o bleser i Marta na mynd trwodd i'r ystafell fwyta i siarad efo'r ymwelwyr. Ac unwaith y dechreuai siarad doedd dim pall ar y sgwrsio.
Croeso anghyffredin Bu'n freuddwyd gan y ddau agor gwesty bach ond Marta ei hun orffennodd y gwaith hwnnw ar ôl marw Gwyn ac yno y cafodd rhai cannoedd o Gymry lety a chroeso anghyffredin.
Nid dim ond gwely a brecwast roddai Marta iddyn nhw. O na, roedd yn llenwi'r oergell fechan â danteithion fel mafon neu deisen fach, a hynny heb godi ceiniog yn ychwaneg amdanyn nhw.
Colli ei golwg Roedd Marta'n storm o wraig mewn corff digon eiddil, yn taranu'n aml yn erbyn hyn a'r llall, ac yn erbyn hwn a'r llall, hefyd, ond roedd yna galon gynnes iawn o dan y gwgu mawr!
Fe gefais i, fel llawer un arall, lond gwlad o garedigrwydd ganddi hi. Oes ryfedd, felly, a hithau bellach yn drist ac unig, wedi colli ei golwg fwy neu lai yn llwyr, i gyfeillion ifanc iddi yn y Gaiman agor cronfa er mwyn iddi gael triniaeth yn Buenos Aires?
Bu'r ymateb i'r cais am arian yn anhygoel yn y Dyffryn ac yng Nghymru hefyd, a ddechrau fis Mawrth eleni cafodd Marta cornea newydd a'i galluogodd i weld tua 30%.
Does dim rhaid dweud ei bod wrth ei bodd ac er na chafodd fyw yn hir wedi hynny, bu gallu gweld ychydig unwaith eto, ynghyd â sylweddoli fod gan gymaint o bobl ar ddwy ochr yr Iwerydd feddwl mawr ohoni, yn foddion i adfer peth o'i hen ysbryd a'i hurddas.
Cymeriad Fel y dywedais, rhyw gloffi yn y gynffon ar ôl tair iaith arall wnâi Cymraeg Marta Rees ond ni fu neb erioed yn fwy cefnogol i bopeth Cymreig.
Bydd bwlch mawr iawn ble bu'r wraig fach hon, a hynny ymysg cymdeithasau ac unigolion a elwodd o'i haelioni mawr.
Mae cymeriadau'n brin a chyda marw Marta dyna golli un a lwyr haeddodd ei galw'n 'gymeriad'.
Cathrin Williams
|