Ar Fedi 24 dathlwyd canmlwyddiant menter ryfeddol yn Ariannin y cymerodd rhai o'r Cymry a sefydlodd Wladfa ym Mhatagonia ran ynddi - datblygu ynys Choele Choel. Yno ymhlith y dathlwyr yr oedd Gruff Roberts a'i wraig Eifiona o Aberhonddu - dau sy'n ymwelwyr cyson â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Yn yr erthygl isod mae Gruff yn son am fenter ryfeddol Choele Choel - ynys sydd ddim yn ynys mewn gwirionedd ond yn dir ffrwythlon wedi ei amgylchynu gan ddwr dwy 'fraich' Afon Ddu Rio Negro - y fraich ogleddol a'r fraich ddeheuol. Rhan o'r dathliadau oedd cyngerdd i tua mil o bobl gyda Chôr Cymysg y Gaiman, Côr Viedma, Côr Trevelin, Triawd offerynnol a Phedwarawd lleisiol Trevelin a Bili Hughes o'r Gaiman yn cymryd rhan. Bu hefyd, de Cymreig i tua 500 o bobl. "Ar y bore Sul aethom ar drip bws i weld Braich Ogleddol yr Afon Ddu ar ffordd y cafodd y camlesi eu ffurfio a gwelsom y rhai modern ac olion y rhai gwreiddiol," meddai Gruff. Hefyd, bu Cyngerdd Plant yn Ysgol 11 - ysgol gweddol newydd a godwyd ar seiliau ysgol gyntaf yr Ynys (1904). Yn y seremoni ar Fedi 24 dadorchuddiwyd dau blac i gofio'r arloeswyr, un gan Gyngor tref Luis Beltran yn cynnwys y geiriau 'Diolch yn fawr' ac un oddi wrth Gymdeithas Dewi Sant Trelew yn Sbaeneg. - Hanes Gwladfawyr o Batagonia yn sefydlu ar Ynysfawr Choele Choel - Lugar de la Gente del Sur - (Tehuelche) (Lle pobl y De) yr Ariannin gan Gruff Roberts: Yn y flwyddyn 1898, penodwyd Eugenio Tello yn rhaglaw ar dalaith Rio Negro. Yn y flwyddyn 1899, fe ddaeth Choele Choel yn brif ddinas y dalaith, dros dro, am fod llu mawr wedi dinistrio tref Viedma, ac roedd y lle i gyd dan ddwr. Bryd hynny y gwelodd y rhaglaw ynys fawr Choele Choel. Roedd yno dir da ond doedd neb wedi gweithio'r tir hwnnw, er bod rhai pobl yn byw yno.
Cofio'i hen ffrindiau Cofiodd Tello am ei hen ffrindiau, y Cymry, yn Nyffryn Camwy, lle'r oedd e' wedi bod flynyddoedd ynghynt ac yr oedd bob amser wedi edmygu ymdrech y Cymry a'r gwaith arbennig yr oeddynt wedi ei wneud yn y Dyffryn. Siaradodd ag Arlywydd yr Ariannin, ar y pryd, Julio Argentino Roca, oedd yn ffrind mawr iddo gan ofyn os y gallai roi cymorth iddo i ddod â rhai o'r teuluoedd i fyny o Chubut i Choele Choel fel y gallent weithio a gwella ansawdd tir yr ynys. Hefyd, fe fyddai cyfle iddynt ddod yn berchnogion ar fwy o dir. Mae'r afon wedi ei hollti ac yna, yn cymryd dau gwrs cyn ail-ymuno wedyn, tu hwnt i'r ynys. Dewis dau Anfonwyd neges i bobl y Dyffryn a'r Andes, reit siwr, yn cynnig tir iddynt i'w weithio. Dewiswyd dau ohonynt i fynd i fyny i weld yr ardal y Bnr. Edward Owen, (peiriannydd) a'r Bnr. Meurig Hughes. Cyraeddasant yr ynys ar Ebrill 6, 1902, a chawsant geffylau i fynd i arolygu'r lle. Nid oedd lli'r afon wedi golchi dros hanner yr ynys yma erioed, ac rydym yn sôn am 32,000 o hectarau neu 80,000 o aceri, i ni. Digon o fwyd Yr oedd yno dir gwastad gyda digon o fwyd i'r anifeiliaid, digon o goed mawr yn tyfu, digon o ddwr ffres gerllaw, y rheilffordd yn bur agos, i anfon ffrwyth y cynhaeaf i ffwrdd i Bahia Blanca, a llongau o'r fan honno i Ewrop. Cynigiwyd yr un faint o dir i'r teuluoedd ag a roddwyd yn Nghwm. Camwy - 250 o aceri - gyda disgwyl i'r Cymry gloddio'r ffosydd, gwastatáu eu tiroedd o fewn blwyddyn, a datblygu eu ffermydd o fewn saith mlynedd, cyn cael y gweithredoedd. Cyrhaeddodd y Cymry yr ynys ar Fedi 24, 1902; rhai mewn wageni, rhai ar geffylau, dros y paith, ac eraill mewn llong o Borth Madryn i Bahia Blanca, ac wedyn ar y trên at yr ynys a chroesi'r afon mewn 'balsa' neu rafft. Byw mewn pebyll Roedd y rhaglaw wedi cael 30 o bebyll gan y fyddin, ac yn y rheiny y bu'r ymfudwyr yn byw am wyth mis.
Ymhen y flwyddyn yr oedd pob un yn byw ar ei fferm ei hun ac ar Fedi 24, 1903, gwahoddwyd y rhaglaw, pedwar o'r prif ddynion a'r peiriannydd, Edward Owen, i godi'r chwe chafn a gwelwyd y dwr yn rhedeg drwy'r brif ffos. Canwyd yr emyn cenedlaethol ac anfonwyd telegram i'r Arlywydd. Daeth y newydd yma allan yn Y 'Dravod', rhif 16, fis Hydref 1903, yn dweud pwy oedd wedi codi'r cafnau. Y diwrnod hwnnw, dyfrhaodd y Bnr. Alfred Jones ei wenith ar ei ffarm, a hynny o'r ffos. Gwerthu eu ffermydd Yn 1909, fe dderbyniodd pob ffermwr y weithred i'w ffarm. Gwerthodd y rhan fwyaf o'r dynion di-briod eu ffermydd a mynd oddi yno a dywedir mai ychydig oedd nifer y Cymry arhosodd gan eu bod yn colli cymdeithas eu cyfeillion a'u teuluoedd yn Nyffryn Camwy. Yr adeilad cyntaf a godwyd oedd y capel ond does dim golwg ohono, erbyn hyn. Datblygwyd pentre' bychan yno ar y pryd ac fe'i galwyd yn Tir Pentre ond yn anffodus newidiwyd yr enw gan y Catholigion yn ddiweddarach, a Luis Beltran ydyw bellach. Mae'n debygol nad oedd digon o Gymry yno, i ymladd i gadw'r enw gwreiddiol. Disgynyddion Un disgynnydd i Edward Owen a gwrddais i, Edward Bernal Owen sy'n gallu siarad ychydig o Gymraeg. Mae nifer fechan o ddisgynyddion Meurig Hughes ar gael ac yn byw yn nhrefi Choele Choel a Luis Beltran. Does yr un ohonynt yn siarad Cymraeg ond mae diddordeb mawr gan ambell un. Buasai Tomas Edwin Hughes, Seicolegydd 30 oed, yn neidio at y cyfle i fynd ar gwrs Cymraeg. Mae'n siarad Saesneg yn bur dda. Mae'n wyr i Meurig Hughes. (Mae un wraig sy'n siarad Cymraeg yn byw yn Choele Choele. Ei henw yw Eirwen May Jones. Mae'n un o deulu mawr Jones, Sarmiento.) Trefnwyd y dathliadau gan Hector Espeche yr oedd ei fam, Rosa Hughes, yn ferch i Meurig Hughes. Bu hi farw yn y flwyddyn 2000, yn 95 oed. Rhan o'r dathliadau oedd cyngerdd i tua mil o bobl gyda Chôr Cymysg y Gaiman, Côr Viedma, Côr Trevelin, Triawd offerynnol a Phedwarawd lleisiol Trevelin a Bili Hughes o'r Gaiman yn cymryd rhan. Uchafbwynt y dathliadau oedd y Te Cymreig i tua 500 o bobl. "Ar y bore Sul aethom ar drip bws i weld Braich Ogleddol yr Afon Ddu ar ffordd y cafodd y camlesi eu ffurfio a gwelsom y rhai modern ac olion y rhai gwreiddiol," meddai Gruff. "Y nos Lun bu Cyngerdd Plant yn Ysgol 11 - ysgol gweddol newydd a godwyd ar seiliau ysgol gyntaf yr Ynys (1904)." Yn y seremoni ar Fedi 24 dadorchuddiwyd dau blac i gofio'r arloeswyr, un gan Gyngor tref Luis Beltran yn cynnwys y geiriau 'Diolch yn fawr' ac un oddi wrth Gymdeithas Dewi Sant Trelew yn Sbaeneg.
|