Ysgrifennaf atoch o Drelew, Patagonia yn gofyn am eich cymorth er mwyn datblygu darpariaeth addysg Gymraeg i'r plant a'r gymuned.
Mae'r Cynllun Dysgu Cymraeg ym Mhatagonia yn bodoli ers 1997 ac mae pob blwyddyn wedi gweld newidiadau yn narpariaeth dysgu a hybu'r Gymraeg yn Nyffryn Camwy ac yn yr Andes.
Yma yn Nhrelew, un o'n llwyddiannau diweddar ydyw ein hysgol feithrin, sydd yn mynd o nerth i nerth dan arweiniad Shirley James, Judith Jones a Romina Herrera.
Credwn mai dyma'r ysgol feithrin orau yn Nhrelew nid yn unig am ei bod yn un Gymraeg o ran y cyfrwng dysgu ond hefyd o ran ansawdd yr addysg a gyfrennir i'r plant bach.
Mae cyfrannu addysg ragorol wedi bod yn un o brif nodau'r ysgol oddi ar ei sefydlu gan ein bod o'r farn mai dyma'r unig ffordd i ennill cydymdeimlad a chefnogaeth rhieni i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Eleni rydym wedi mynd ati i ail-wampio holl gysyniad yr ysgol. I'r perwyl hwn rydym wedi ymestyn y ddarpariaeth i gynnig dwy awr a hanner o ysgol feithrin bob prynhawn o'r wythnos, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cynigiwn hefyd ddosbarth ôl-feithrin dair gwaith yr wythnos, a dosbarth i bobl ifanc yn eu harddegau. Rydym yn ddiolchgar i gapel Tabernacl, Trelew am gynnig y festri i ni er mwyn cynnal y dosbarthiadau, ond eisoes, mae'r lle yn fach i ateb ein gofynion.
Ein gobaith yw medru cynnig dosbarth bob bore a phob prynhawn y flwyddyn nesaf. Bydd wedyn yn ysgol drwy'r dydd a byddai pwysigrwydd symbolaidd iawn i hynny.
Y gobaith yw y bydd yn sail i ddatblygu addysg gynradd Gymraeg yn Nhrelew. Wrth gwrs byddai hynny yn cydfynd ag argymhellion yr Athro Robert Owen Jones yn ei Adroddiad I'r Cynulliad Cenedlaethol yn Rhagfyr 2003.
Beth yw goblygiadau'r cynlluniau uchelgeisiol hyn? Golyga fod angen i ni sicrhau lle addas i allu ymestyn a datblygu'r ddarpariaeth.
Mae angen adeilad ble y medrwn gynnal dosbarthiadau Cymraeg ac ysgol feithrin Gymraeg a gweithgareddau amrywiol eraill, nid yn unig am eleni a'r flwyddyn nesaf ond i'r dyfodol pellach hefyd.
Credwn y dylem ni fanteisio ar y ffaith bod cynllun y Cynulliad yn parhau am ddwy flynedd arall ac y dylen ni yn y cyfamser fynd ati i ddod o hyd i ganolfan bwrpasol a thalu amdani.
Nid yw'r adnoddau yn Neuadd Dewi Sant yn addas ar gyfer y gwaith amrywiol sydd ar y gweill. Bydd yn rhaid sefydlu canolfan bwrpasol arall.
Credwn ein bod wedi dod o hyd i adeilad pwrpasol hefyd! Hen dy mewn ardal ganolog ond stryd dawel yn Nhrelew ydyw a bu'n ysgol feithrin yn y gorffennol ac yn lle gwely a brecwast cyn hynny.
Mae yno bedair ystafell fawr braf, gardd a garej lle y medrwn gynnal asados ac mae hyd yn oed fflat yno i athro o Gymru neu i'w rentu i bobl addas.
Credwn y medrwn addasu dwy o'r ystafelloedd i wneud un fawr a'i defnyddio, nid yn unig i'r ysgol feithrin, ond hefyd er mwyn cynnal ymarferion côr, dawnsio gwerin, swper neu weithgareddau cymdeithasol tebyg ar gyfer y gymuned Gymraeg a'i ffrindiau.
Credwn y bydd yn gymharol hawdd addasu'r lle i gyrraedd â gofynion a safonau iechyd diogelwch Cyngor Trelew a gofynion pwyllgor addysg talaith Chubut.
Fel y gwyddoch mae cymdeithas Gymraeg eisoes yn bodoli yn Nhrelew - Cymdeithas Dewi Sant, ac hoffwn bwysleisio nawr mai cangen o'r gymdeithas hon ydym ni, yn gweithio ar y cynllun hwn gyda'u bendith a'u cefnogaeth hwy.
Mewn cyfarfod yn ddiweddar fe gynigiodd y gymdeithas roi hyn yn ysgrifenedig ar ffurf llythyr o argymhelliad er mwyn ein galluogi i wneud ceisiadau am nawdd gan yr awdurdodau. Rhoddon nhw hawl i ni ddefnyddio eu cyfrif banc er mwyn hwyluso trefniadau ariannol ac yn bwysicach fyth efallai, cynigion nhw gyfrannu 50% o'u tâl aelodaeth blynyddol i'r ganolfan.
Rydym eisoes wedi cychwyn ar ein hymgyrch i godi arian. Rydym wedi sefydlu is-bwyllgor sy'n cyfarfod yn wythnosol dan yr enw 'Cylch Cymraeg Trelew' ac fe welwch ein logo ar ben y dudalen.
Ymysg ein gwethgareddau i godi arian rydym wedi: cynllunio crysau-T i'w gwerthu
darparu asado i griw Côr Aelwyd Crymych a bwriadwn wneud hyn a gweithgareddau tebyg yn gyson yn y dyfodol i'r gymuned leol ac i ymwelwyr o Gymru
paratoi bonos, sef derbynebion am roddion o arian, ac rydym wrthi'n daer yn eu 'gwerthu'.
dechrau codi ymwybyddiaeth am ein cynllun drwy ymgyrch yn y cyfryngau lleol, yn enwedig yr amryw raglenni radio Cymraeg yn yr ardal
paratoi dogfen i'w chyflwyno i'r awdurdodau a chwmniau masnachol er mwyn chwilio am noddwyr
Rydym felly yn ysgrifennu atoch i ofyn am arian! Mae'r adeilad yr ydym wedi dod o hyd iddo ar werth am US$40,000 sydd bron yn $120,000 peso erbyn hyn, neu tua £25,000.
Mae'n swm anferth i'w godi ble bynnag ydych chi, does dim dwywaith am hynny, ond y gwir ydy na fedrwn ei godi yma ym Mhatagonia ar ein pen ein hunain.
Mae gennym gynlluniau ar y gweill i wneud ymgyrch yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd, drwy gymorth Cymdeithas Cymru Ariannin, ond rydym yn dechrau ein hymgyrch yng Nghymru gyda'r cais hwn yn gofyn am gyfraniad uniongyrchol.
Gobeithio y byddwch yn cytuno efo ni fod y ganolfan hon yn hanfodol i'n parhad a'n cynnydd ni yn y Gymraeg yma yn Nhrelew.
Os felly anfonwch eich cyfraniad yn uniongyrchol at: 'Canolfan Trelew', Banc y Nat West, Sgwar Uxbridge, Porthaethwy, Ynys Môn, LL59 5AR, gan wneud sieciau yn daladwy i 'Canolfan Trelew'. Yn ddiolchgar, Catrin Morris de Junyent
|