Mae nifer o arwyddion cyhoeddus Y Gaiman ym Mhatagonia yn awr yn ddwyieithog - Sbaeneg a Chymraeg.
I Gabriel Restucha, siaradwr Cymraeg a etholwyd yn faer y dref fis Medi 2007, y mae'r diolch.
Mae'r arwyddion y tu allan i adeiladau cyhoeddus fel swyddfa'r heddlu, yr orsaf dân, y banc ac Ysbyty John Evans a enwyd am mai'r Parchedig John Evans a roddodd y tir ar gyfer codi'r adeilad.
Cyn ei ethol yn faer athro yng Ngholeg Camwy oedd Gabriel Restucha a bu'n amlwg iawn ym mywyd Cymraeg y Wladfa ac yn un o arweinyddion Eisteddfod y Wladfa ers blynyddoedd.
Treuliodd gyfnod yng Nghymru yn gloywi ei Gymraeg ac y mae o dras Gymreig ar ochr ei fam. O deulu William Jones y Gof mae ganddo berthnasau o hyd yn ardal Llanbedr Pont Steffan.
Yn etholiad y maer fis Medi 2007 bu'n fuddugol gyda mwyafrif o 500 o bleidleisiau dros y maer blaenorol a fu wrth y swydd er 1987 - ar wahân i fwlch o dair blynedd rhwng 1995 a 1998.
Mae nifer o strydoedd Y Gaiman a threfi eraill ym Mharagonia yn dwyn enwau Cymry amlwg y Wladfa megis "Heol Michael D Jones," yn Y Gaiman ei hun.
Môr a Mynydd
Ar ddechrau Chwefror 2008 ffarweliodd Gabriel Restucha a deugain o Jubilados - pensiynwyr - y Gaiman wrth iddynt adael am wythnos o ymweliad â'r Andes fel rhan o´r prosiect Mar y Cordillera - Môr a Mynydd.
Mae´r cynllun hwn yn galluogi pobl hŷn sy'n byw yn y dyffryn ymweld â'r Andes a'r rhai sy'n byw yno dreulio amser wrth y môr.
Municipalidad Gaiman dalodd am y bws a Llywodraeth y dalaith am y llety a bwyd i bawb.
|