Cafodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da Ieuenctid Cymru ei darlledi yn fyw ar Radio Chubut, Trelew, bnawn Gwener Mai 16, 2008.
Bu hyn ar raglen Cymdeithas Camwy sydd yn cael ei pharatoi gan Tegai Roberts o Amgueddfa Hanes y Gaiman ac yn cynnwys cerddoriaeth Gymraeg a newyddion lleol drwy gyfrwng y Sbaeneg.
Bu dau ddisgybl o Ysgol Uwchradd Camwy, Daniela Evrard a Guillermo Thomas yn darllen y neges yn y Sbaeneg, Saesneg a Ffrangeg a gwahoddwyd ymwelydd ifanc o Gymru i ddarllen y neges yn Gymraeg, Dorothy Bere (19 oed ) cyn-ddisgybl Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin.
Mae hi yn ddisgynnydd y Parchedig Michael D Jones o'r Bala, yn wyres i Eluned Bere, Y Barri, ac mae'n aros yn y Gaiman efo perthnasau ym Mhlâs y Graig.
Mae hi'n gobeithio nabod mwy o'i theulu a'r wlad a hefyd helpu yn y gwahanol weithgareddau Cymreig yn yr ardal.
Efallai bydd ei hamser yn brin gan ei bod wedi cael ei gwahodd yn barod i gynorthwyo yn yr Ysgol Feithrin yn y Gaiman, a fynychir yn ddyddiol gan dros 40 o blantos.
Bydd hefyd yn helpu trefnydd lleol Menter Patagonia, Dyfed Siôn, yn yr aelwyd sydd wedi dechrau yn Nhrelew ac wrth gwrs, gan ei bod yn lletya yng nghartref Tegai Roberts, curadur yr Amgueddfa bydd yn rhoi help llaw yno.
Mae Dorothy hefyd yn gobeithio gwella ei Sbaeneg trwy fynychu dosbarthiadau yn Ysgol Camwy a hefyd bod yn bresennol ym Micro-eisteddfod yr ysgol Mai 31 2008 o Fai yn Hen Gapel y Gaiman diolch i bwyllgor o ddisgyblion brwdfrydig.
|