Babis a Gwyl Glaniad 2003 Patagonia Heddiw aethon ni i Dir Halen - eto. Taith o 100 km yno ac yn ôl. Do, mi fuon ni yno ar gyfer y seremonïau dathlu Gwyl Glaniad ond tase rhywun yn gofyn i mi beth ddigwyddodd neu be ddywedodd y siaradwyr fuasai gen i ddim syniad. Felly dyma ddychwelyd.
Y Glaniad Ar Orffennaf 28 yn y flwyddyn 1865 y glaniodd y fintai gyntaf o Gymry ar draeth Porth Madryn i oerfel gwynt Patagonia ac ar y diwrnod hwn bob blwyddyn, felly, fe welir dathliadau lu yn yr ardal anghysbell hon o Dde America.
Te mewn hen gapeli Falle y gwyddoch am y te enwog a gynhelir yn yr hen gapeli ar hyd a lled Dyffryn Camwy, neu ddyffryn yr afon Chubut, fel y gwelir ar fapiau ac a adnabyddir gan y mwyafrif o Archentwyr.
Os ewch am dro ar hyd y dyffryn rhwng tua thri a phump o'r gloch ar y diwrnod hwn fe welwch fwy o bobl yn mynychu'r capeli nag a welir ar unrhyw Sul.
Mi welwch giwiau o ddwsinau o bobl yn aros i gymryd eu lle ar feinciau caled y capeli er mwyn profi danteithion y menywod lleol a fu'n chwysu dros y tân er mwyn pobi eu teisennod, a'u bara cartref.
Berwi yn y buarth Yng nghapel sinc Lle Cul mi welwch y te'n berwi ar dân coed pren yn y buarth; Ym Mryn Crwn mi welwch rasys ceffylau a chystadlaethau marchogaeth eu tebyg na welir yng Nghymru; Yn hen gapel Bethel, y Gaiman mi gewch gyngerdd a chlywed pobl hen ac ifanc yr ardal yn canu ac adrodd yn Gymraeg.
Os ym Mhorth Madryn, efallai y gwelwch chi'r Cymry cynnar yn dod i'r lan o'u cwch ac yn glanio unwaith eto ar draethau'r dre - ond y tro hwn mi gân nhw ddewis aros mewn gwesty cyfforddus efo gwres canolog nid ar ddarn o graig oer heb fawr ddim lloches rhag yr elfennau.
Ym mhentref Tir Halen Ond fe ddechreuir y dathliadau bob blwyddyn ar fore'r 28ain efo seremoni dan ofal Cymdeithas Dewi Sant, Trelew, ac eleni roedd hon ar dop y dyffryn yn y pentref agosaf at geg y ffosydd, sef Tir Halen.
Ni welwch yr enw hwn ar ddim arwydd ffordd gan mai "28 de Julio" neu "28ain o Orffennaf" ydy enw'r lle erbyn hyn.
Pentref bach ydyw efo dyrnaid o dai, ysgol, campfa, amgueddfa, llyfrgell, a gorsaf heddlu sy'n gwasanaethu'r ffermydd cyfagos, a dyma lle roedd y seremonïau i fod eleni.
Cymraes ydw i yn briod ag Archentwr ac yn magu teulu yn Nhrelew, Patagonia. Felly, fel aelod cyfrifol o'r gymdeithas Gymreig yma, a chyn-athrawes Gymraeg a ddysgai dan adain Cymdeithas Dewi Sant, Trelew, mi ymlwybrais i Dir Halen ar fore oer diwrnod Gwyl Glaniad eleni.
Es â'r merched bach efo fi. Mae Elen yn 21 mis oed a Maite yn dri mis.
Roedd Milton, fy ngwr, wedi gorfod gweithio.
Dylwn i fod wedi darllen yr arwyddion. Roedd popeth yn dweud wrtha i am aros yn y ty yn gynnes y bore hwnnw. Ta waeth, mi es, gan gasglu Eiry Miles, athrawes y Gaiman a Dai, ei chariad, ar y ffordd.
A dyma sgrech! O gyrraedd y gampfa roedd y lle'n llawn o bobl gyfarwydd oedd wedi gyrru neu deithio efo ffrindiau a theulu yno o bob cwr o'r dyffryn. Ac wedi cyfarch cymaint ag oedd yn bosibl dyma eistedd yn barod ar gyfer y seremoni.
Daeth tawelwch ac ymdeithiodd cynrychiolwyr y cymunedau amrywiol a'u baneri i ben y llwyfan .... a dyma sgrech. A sgrechian di-ball.
Cododd pawb ar eu traed i ganu anthem genedlaethol yr Ariannin efo'i rhagarweiniad hir, ond y tro hwn i gyfeiliant sgrechian y babi.
Doedd Maite brin wedi codi ei llais erioed yn ystod ei bywyd bach cyn hyn ond, y bore hwn, mi benderfynodd brotestio a gadael i'r byd wybod ei bod yn gwrthwynebu cael ei llusgo i'r lle anghysbell hwn yn yr oerfel.
Welon ni ddim o'r seremoni, na chlywed araith Gabriel Restucha na chlywed côr Ysgol Gerdd y Gaiman yn canu.
Ac wedi mynd allan i'r awyr iach i weld dadorchuddio cofgolofn i'r bydwragedd a fu'n rhoddi o'u hamser a'u sgiliau ar hyd a lled y dyffryn cyn i'r meddygon cyntaf gyrraedd, dyma ddechrau eto.
Sgrech ar ôl sgrech. Glywon ni ddim côr Dolafon yn canu nac anerchiad Carlos Dante Ferrari, awdur lleol, colli'r asado a'r cig rhost traddodiadol ac o'r diwedd bu rhaid i ni ei throi hi am adre.
Dychwelyd i ddathlu eto Felly dyma ddychwelyd y pnawn yma. Teithio'n bedwar y tro hwn, yn hamddenol drwy'r Gaiman a Dolafon cyn cyrraedd Tir Halen ac aros y tu allan i'r amgueddfa leol i weld y cerflun prydferth a thrawiadol iawn i'r bydwragedd.
Dyma ymweld â'r amgueddfa a gadael i Elen redeg ar y glaswellt ac yn y parc naill ben.
Cael picnic ar lan yr afon a chael pnawn bach tawel a bendigedig yn gwneud rhywbeth rydym ni wrth ein boddau yn ei wneud - mynd am dro ar hyd y dyffryn hardd hwn sydd yn deyrnged i lafur y Cymry a drodd yr anialwch yn dir ir a ffrwythlon.
A'r tro hwn efo'r ddwy ferch fach yn ddiddig a bodlon eu byd.
|