Ddydd Sadwrn, Gorffennaf 16, 2011, yn ei chartref yn Gaiman bu farw Alwina Thomas.
Bu'n wael yn hir a gwyddem fod y diwedd yn agos, ond pan ddaeth roedd ei dderbyn yn anodd gan i Alwina fod yn rhan hanfodol o fywyd pob un, boed nhw'n athrawon neu'n weinidogion, a fu'n byw dros dro yn Nhŷ Camwy oedd ychydig lathenni o'i chartref ar stryd Michael D Jones.
Roedd i'w thŷ ddrws agored i bawb a châi pob ymwelydd groeso cynnes, yr hyn a fu'n help mawr i'r rhai o Gymru oedd weithiau'n hiraethu am eu cartrefi.
Yn y tŷ hwn y treuliodd Alwina ei hoes gan fyw fel y bu fyw ei Nain a'i Modryb o'i blaen, yn groesawgar, yn daclus, yn ddeddfol. Yma y daeth yn blentyn wedi treulio blynyddoedd yn yr Ysbyty Prydeinig yn Buenos Aires oherwydd anhwylder ar ei choesau.
Oherwydd yr anhwylder hwn roedd yn fechan o gorff, yn cerdded gyda ffon ac yn edrych yn ddigon eiddil - ond roedd ganddi ewyllys gref ac asgwrn cefn o ddur. Hyn, yn sicr, a'i galluogodd i fyw i fod yn 91 oed.
Cerddor
Cafodd fywyd hir, prysur a defnyddiol. Roedd yn gerddor, yn bianydd, fu'n hyffordd plant i ganu a chanu'r piano a bu am flynyddoedd yn cyfeilio mewn eisteddfodau.
Hi oedd prif organydd capel Bethel ble roedd hefyd yn ddiacon. Yn gadarn ei ffydd fe'i mynegai mewn ffyrdd ymarferol drwy ei gwasanaeth a'i charedigrwydd.
Oherwydd bod cerdded yn broblem bu'n gyrru car i bobman a gwneud hynny yr un mor feistrolgar ag y gwnâi bopeth.
Roedd yr un mor feistrolgar yn ei gwaith gyda Chwmni Marchnata'r Camwy, yna gyda Chyngor y Gaiman nes symud at y cwmni trydan a dŵr, ble bu'n gweithio nes iddi ymddeol.
Roedd Alwina'n un o'r ychydig rai yn y Gaiman oedd yn gwbl dair ieithog. Bu'n rhaid iddi ddysgu Saesneg fel plentyn bach yn yr ysbyty ac ail ddysgu ei Chymraeg wedi dod oddi yno.
Darllenai ac ysgrifennai'r tair iaith yn ddidrafferth a phan enillodd y gystadleuaeth ar gyfer y rhai a aned ac a faged yn y Wladfa yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni dywedodd golygydd y cyfansoddiadau iddo ryfeddu at safon a chywirdeb ei hiaith.
Byddai safon a chywirdeb yn eiriau addas iawn i grynhoi'r hyn oedd Alwina ym mhopeth a wnaeth ac a fu. Bydd colli hynny'n golled amhrisiadwy i lawer cylch ar fywyd ac i'w llu ffrindiau yn y Wladfa a Chymru.