Bydd 'Ysgoloriaeth y Wladfa', Coleg Llanymddyfri, yn cael ei hadnabod fel Ysgoloriaeth Tom Gravell o hyn allan.
Y mae hyn er cof am un o gyfeillion mawr y Wladfa yng Nghymru ac un a oedd yn uchel ei barch ymhlith Cymry Patagonia.
Bu farw Tom Gravell o Gydweli yn 2004 yn dilyn gwaeledd hir.
Uchel ei barch Ond er gwaethaf ei waeledd llwyddodd i ymweld â'r Wladfa 13 o weithiau i gyd.
Hynny, er yr ofnai yn ystod ei unfed ymweliad ar ddeg yn 1999 mai hwnnw fyddai ei ymweliad olaf oherwydd cyflwr ei iechyd.
Yr oedd ei gariad tuag at Gymry Patagonia yn angerddol a'u parch hwythau iddo yntau yr un mor gynnes.
Y bobl Dywedai mai'r bobl oedd yn gwneud y Wladfa yn lle mor arbennig. "Y bobl yn fwy na dim sy'n fy nhynnu yn ôl yma ond mae yna hefyd ambell i lecyn lle mae'r hen baith yn agor ei law i fy nghroesawu i hefyd - ond cyfeillgarwch y bobl yn fwy na dim arall ydi'r dynfa ac edmygedd o'r ymdrech fawr a wnaeth y gwladfawyr cynnar," meddai yn ystod un o'i ymweliadau diwethaf.
Bydd llawer yn croesawu penderfyniad Coleg Llanymddyfri i enwi Ysgoloriaeth y Wladfa er cof am y gŵr a wnaeth gymaint yn y Saithdegau a'r Wythdegau i adeiladu a chryfhau y cysylltiadau rhwng Cymru a'r Wladfa.
Pasg 2007 Fel rhan o'r Ysgoloriaeth bydd ei fab, David Gravell, Cydweli, yn talu costau'r daith awyren yn y dyfodol.
"Mae'r Coleg yn ddiolchgar iawn i David sy'n hen ddisgybl ac yn awr yn ymddiriedolwr," meddai Glyn Evans o'r coleg.
Ar hyn o bryd mae Mr Evans mewn cysylltiad â Luned Gonzalez a Camilla Irianni ym Mhatagonia ar gyfer dewis y nesaf i dderbyn Ysgoloriaeth a threulio tymor y Pasg 2007 yn Llanymddyfri.
Y cyntaf Yng Nghymru daeth Tom Gravell i amlygrwydd fel gwerthwr ceir. Sefydlodd fodurdy Gravells yng Nghydweli ym 1932. Ef oedd y cyntaf i werthu ceir Renault yng Nghymru ac mae'r busnes hwnnw yn parhau yn un llewyrchus.
Gwerthodd ei gar Renault cyntaf, ddydd Gŵyl Dewi 1954.
Dechreuodd ei yrfa mewn sied fechan fel contractor a gwerthwr glo gan lywio ei fusnes i fod yn un o werthwyr ceir mwyaf y gorllewin ac, erbyn hyn, y cwmni a fu'n gwerthu ceir Renault hira ym Mhrydain.
Derbyniodd yr MBE yn 1998.
Roedd Mr Gravell, a oedd yn 91 oed pan fu farw, yn flaenor yng Nghapel Morfa er 1947 a bu'n faer Cydweli ddwywaith.
|