Mae Cymdeithas Cymru Ariannin wedi sefydlu pwyllgor arbennig ar gyfer llywio dathliadau canmlwydd a hanner sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Bydd 150 mlwyddiant yn 2015.
Sefydlwyd y pwyllgor llywio mewn cyfarfod cyhoeddus gan Gymdeithas Cymru-Ariannin Mai 22 2010 yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth ac etholwyd Dafydd Wigley yn gadeirydd, Hywel Roberts, Swyddog Ieuenctid yng Ngwersyll yr Urdd, Bae Caerdydd, a fu'n gweithio ym Mhatagonia gyda Menter Patagonia yn 2009, yn ysgrifennydd a Gareth Tilsley yn drysorydd.
Etholwyd hefyd ddeuddeg o aelodau, Hazel Charles Evans, Elvey MacDonald, Gwynfryn Evans, Jon Gower, Ceris Gruffudd, Y Parchedig Eirian Wyn Lewis, Menna George, Gwyn L Williams, Bill Jones, E Wyn James, D L Davies a Gwenith ap Robert John ac mae hawl i gyfethol aelodau ychwanegol yn ôl y galw.
Rhestrwyd amcanion y pwyllgor fel:
-
I edrych i mewn i syniadau ar gyfer dathliad 150mlwyddiant Gwladfa Gymreig Patagonia yn 2015;
-
i sbarduno diddordeb ymhlith y cyhoedd, cyrff cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat yng Nghymru mewn hyrwyddo'r dathliadau;
-
i asesu ymarferoldeb awgrymiadau ar gyfer dathlu;
-
i greu cysylltiad gyda'r Wladfa i sicrhau cydlynu wrth gynllunio dathliadau, rhwng mudiadau ac unigolion perthnasol yn y ddwy wlad;
i ddenu sylw cyhoeddus at y cysylltiadau Cymreig gyda'r Wladfa ym Mhatagonia ac at y dathliadau;
-
i ysgogi gwell dealltwriaeth yng Nghymru o'r Wladfa - yn arbennig o fewn y gyfundrefn Addysg;
-
i symud ymlaen - maes o law - i sefydlu Pwyllgor Gweithredol a fydd yn gyfrifol am y dathliadau yn 2015.
Bydd cyfarfod nesaf y pwyllgor llywio Mehefin 26 2010 yn Aberystwyth; ac yna cyflwynir adroddiad i Gyfarfod Blynyddol Cymdeithas Cymru-Ariannin yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst.
Yr oedd Dafydd Wigley ymhlith y rhai a aeth allan i Batagonia yn 1965 ar gyfer dathlu canmlwyddiant y Wladfa ac ers hynny cadwodd ef a'r teulu gysylltiad â'r gymuned yno.