Sefydlwyd yr ysgol gan Mary Zampini, athrawes frwdfrydig o'r ardal, sydd yn dal i redeg y dosbarthiadau. Mae plant pedair a phump oed yn mynychu'r ysgol am awr a hanner, dair gwaith yr wythnos a phlantos dwy a thair oed am awr a hanner, ddwy waith yr wythnos. Yn ogystal â hynny, cynhelir dosbarth i'r plant hyn am ddwy awr fore Sadwrn. Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae'r ysgol wedi ffynnu'n aruthrol ac roedd ei disgyblion cyntaf, sydd bellach yn eu harddegau, yn awyddus i dalu teyrged i Mary. Daethant at ei gilydd yn gwbl annisgwyl yn ddiweddar i rannu teisen benblwydd, i ganu'r hen ganeuon ac i drosglwyddo llun prydferth o ddiwrnod cyntaf yr ysgol iddi. Mae'r ysgol dan nawdd Cymdeithas Camwy a derbyniodd gymorth gan Gymdeithas Cymry Ariannin a charedigion addysg o dro i dro. Mae'r ysgol ar y stryd fawr mewn safle sydd yn cael ei benthyg yn rhad ac am ddim gan Gyngor y Gaiman. Erbyn hyn, mae'r ysgol yn rhan o Brosiect yr Iaith Gymraeg, sy'n cael ei gynnal gan y Cynulliad a'r Cyngor Prydeinig. Llongyfarchiadau i Mary a'i chydweithwyr am ei llafur diflino dros yr iaith Gymraeg yn y Wladfa. Luned González ac Eiry Miles
|