Yn ystod wythnosau olaf mis Hydref 2008 ymwelodd 21 o bobl ifanc â'r Wladfa yn rhan o gynllun a ddisgrifiwyd fel un "unigryw".
Bu Menter Iaith Patagonia ac Urdd Gobaith Cymru yn cydweithio i gynnig profiad arbennig iawn i dri pherson ifanc o saith ysgol Uwchradd Gymraeg ar draws de a gorllewin Cymru.
"Yn ystod eu hymweliad gwnaeth disgyblion Ysgolion y Preseli, Maes Yr Yrfa, Gŵyr, Rhydywaun, Plas Mawr, Rhydfelen a Chwm Rhymni gyfraniad gwerthfawr i'r Gymuned Gymraeg ym Mhatagonia trwy beintio ysgolion yr Andes, dysgu sesiynau plant yn yr ysgolion, cystadlu yn Eisteddfod y Wladfa a gwirfoddoli yn ystod seremoni'r Orsedd yn Eisteddfod y Wladfa," meddai James Rhys Williams
Menter Iaith Patagonia, Ysgol Gymraeg yr Andes.
Ychwanegodd iddo fod yn gyfle i bobl ifanc Cymru wneud gwahaniaeth a dangos i ieuenctid Patagonia fod yr iaith Gymraeg yn fyw ymysg y Cymry ifanc.
Meddai Jessica Jones, un o athrawon Ysgol Gymraeg Yr Andes:
"Mae'n braf gweld grŵp o bobl ifanc llawn egni a hwyl yma ym Mhatagonia sydd eisiau gweithio a mwynhau trwy'r Gymraeg. Dydyn ni ddim wedi arfer gweld grwpiau o bobl ifanc yma ond mae'r ymweliad yma wedi newid y ddelwedd sydd gan bobl ifanc lleol o'r Cymry mewn ffordd bositif iawn."
Cafodd y criw ifanc o Gymru olwg ar ochr ddiwylliannol y Wladfa trwy fynychu Cymanfa Ganu yng Nghapel Bethel, Y Gaiman, a thwmpath mawr i bobl ifanc Trevelin.
Bu hefyd gyfle i weld y Morfilod yn Peninsula Valdes a rafftio dŵr gwyn i lawr afon Corcovado yn mynyddoedd Yr Andes.
Meddai Dafydd Llŷr, Ysgol Maes Yr Yrfa:
"Mae'r pythefnos diwethaf wedi bod yn anhygoel. Yn un o'r profiadau na fydda'i byth yn ei anghofio."
Arweinwyr y daith oedd Geraint Scott, Hywel Roberts ac Eleri Mai Thomas.
|