Lluniau Godre'r Andes ar arddangos yn Eisteddfod Caerdydd 2008
Bydd tri sefydliad filoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd yn cymryd rhan mewn arddangosfa a chysylltiad gwe yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.
Bydd Ysgol Gymraeg yr Andes ym Mhatagonia yn ymuno â Chanolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Caerdydd a'r Eisteddfod Genedlaethol i greu arddangosfa ar gyfer Maes D yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Lluniau a lleisiau "Rydyn ni wedi danfon lluniau a phytiau o wybodaeth am ein hardal, darnau o waith gan rai sy'n dysgu Cymraeg yma, recordiadau llais a ffilmiau cylch hen a chyfoes am y Wladfa ac mae dysgwyr Caerdydd wedi cyfrannu pethau tebyg o'u hardal nhw," meddai Gill Stephen sydd yn athrawes Gymraeg ym Mhatagonia ar hyn o bryd.
"Rydyn ni wedi cael amser cyffrous braidd yma yn Ardal Godre'r Andes hyd yn hyn y flwyddyn hon, gyda thân mawr ar y mynyddoedd rhwng Esquel a Threvelin a ffrwydrad folcanig. Mae lluniau bendigedig a dynnwyd gan bobl lleol o'r ddau beth ym mhlith lluniau'r arddangosfa," ychwanegodd.
Bywyd bob dydd "Wrth gwrs, dydy pethau ddim mor ddramatig yma trwy'r amser, felly rydyn ni hefyd wedi anfon lluniau o fywyd bob dydd - cymdeithasu, bwyta, byd natur a ffermio - i roi darlun mwy cytbwys!," meddai.
"Gobeithiwn y bydd pobl Cymru'n mwynhau gweld ein lluniau a darllen amdanom ni," meddai.
Wedi wythnos yr Eisteddfod bydd yr arddangosfa yn croesi'r Iwerydd ac i'w gweld yn Eisteddfod Trelew yn y Wladfa cyn dychwelyd i Drevelin ac Esquel yn yr Andes.
Camerâu gwe Bydd hefyd dwy sesiwn yn ystod wythnos yr Eisteddfod pan fydd camerâu gwe yn cysylltu'r Ganolfan yn Esquel gyda Phabell y Dysgwyr ar Faes y Brifwyl yng Nghaerdydd.
"Rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael siarad wyneb yn wyneb â dysgwyr Cymru. Fe fydd yn arbennig o braf inni gael siarad â'n pobl ni, o ardal Godre'r Andes, Diana Jenkins, Enrique Borda Green, Glenda Powell a Jessica Jones sydd yn mynychu'r Cwrs Haf yn y Brifysgol yng Nghaerdydd ar hyn o bryd," meddai Gill Stephen.
Bydd y cyswllt cyntaf trwy gamera gwe ddydd Mercher yr Eisteddfod, Awst 6 am ddau o'r gloch yng Nghymru a 10.00 y bore yn yr Ariannin.
|