Ers 1975 bu trefniant i fyfyrwyr o'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ddod draw i Gymru i feistroli'r iaith. Er enghraifft, daeth wyth o fyfyrwyr yn 2002, wyth yn 2001 a saith yn 2000, a hynny o lefydd mor amrywiol â Threlew, Trevelin, Gaiman, Comodoro Rivadavia ac Esquel.
Y bwriad ar gyfer 2003 yw i chwech o fyfyrwyr ymweld â choleg Prifysgol Cymru yn Llanbedr Pont Steffan ar gyfer cwrs Cymraeg dwys yn para am wyth wythnos.
Dywedodd Ceris Gruffudd o'r gymdeithas eu bod yn falch iawn fod Prosiect yr Iaith Gymraeg yn Chubut wedi cael estyniad gan y Cynulliad yn ddiweddar.
Dyma'r cynllun lle mae'r Cynulliad yn talu am athrawon o Gymru i fynd allan i'r Ariannin i ddysgu'r Gymraeg. Mae hefyd yn cynorthwyo myfyrwyr o Batagonia i ddod i Gymru i barhau gyda'u hastudiaethau. Bydd y cwrs eleni yn cychwyn ar Orffennaf 7fed.
Ond oherwydd sefyllfa economaidd bresennol yr Ariannin mae'n anodd i'r myfyrwyr gael hyd i gost tocyn i hedfan o dde America i Gymru ac mae Cymdeithas Cymru-Ariannin yn noddi cost tri thocyn.
Mae'r Gymdeithas am i unrhywun sy'n dymuno cynorthwyo gyda chost y tocynnau i anfon at drysorydd y gymdeithas - Rhys Jones, Llys Myrddin, Allt Saithaelwyd, LLANGEFNI, Ynys Môn, LL77 7TQ gan farcio yr amlen 'Cronfa Myfyrwyr Llambed.'