Mae hi'n un o amgueddfeydd mwyaf diddorol Patagonia ond er ei phwyslais ar hanes Cymry'r Wladfa dim ond yn ddiweddar y llwyddwyd i gyfieithu i'r Gymraeg yr holl wybodaeth werthfawr sydd yno.
I 'Fenter Patagonia' mae'r diolch am y gwaith yn Amgueddfa yr Hen Felin yn Nhrevelin - adeilad a gysylltir ag un o arloeswyr pennaf y Wladfa, John Daniel Evans, dyn busnes craff a oedd yn cael ei adnabod yn y Sbaeneg fel 'El Molino' - y Melinydd.
Rai blynyddoedd yn ôl trowyd y felin bwysig a sefydlodd yn amgueddfa ac o hyn allan bydd esboniadau Cymraeg i'r arddangosfeydd yn ogystal â'r rhai Sbaeneg.
Mae staff yr amgueddfa yn hynod o falch o'r gwaith yma, gan fod nifer o ymwelwyr o Gymru wedi bod holi am esboniadau Cymraeg.
Hanes y Cymry
Mae'r Hen Felin yn cofnodi hanes y Cymry yng Nghwm Hyfryd gyda nifer o arddangosfeydd diddorol am arferion byw, traddodiadau y cyndeidiau, gwisgoedd a hanesion di-ri.
Yn sicr, dyma un o brif atyniadau'r dref, ymysg ymwelwyr o Gymru a thu hwnt.
"A nawr, diolch i Fenter Patagonia, mae ymwelwyr di-Gymraeg yn gallu gweld pa mor bwysig yw'r iaith ynghyd a pha mor wahanol ydyw i ieithoedd eraill," meddai llefarydd.
Taith hir
Cyrhaeddodd y Cymry Gwm Hyfryd gyntaf wedi taith hir ac anturus o rhyw 800 milltir dros y paith yn 1885 ac mae'n ddigwyddiad sy'n cael ei ddathlu'n flynyddol hyd heddiw.
Arweinydd y criw o 30 Gymry, oedd yn cael eu galw yn Los Rifleros, oedd John Daniel Evans a oedd erbyn 1918 wedi codi'r felin flawd y tyfodd pentref Trevelin o'i hamgylch.
Ef oedd y Cymro a ddihangodd yn wyrthiol bron rhag brodorion oedd yn ei ymlid wrth i'w geffyl Malacarah neidio dros agendor yr ofnai'r ymlidwyr ei fentro.
Mae bedd y ceffyl heb fod nepell o'r Amueddfa a hefyd fwthyn a godwyd a'i ddodrefnu gan un o ddisgynyddion Daniel Evans i gynrychioli'r math o dŷ y byddai'r anturiwr ei hun wedi byw ynddo.
Yn y llun: James Rhys Williams, Swyddog Menter Iaith Patagonia yn arddangos y gwaith cyfieithu.