- Cofio Sandra: Yn gynnar fore Llun Hydref 10 bu farw Sandra Jones de Hugas mewn damwain car ar y ffordd ir Gaiman.
Roedd ei hunan yn y car ar ei ffordd i nôl ei merch Valentina o dy ffrindie.
Roedd Sandra yn athrawes Saesneg, yn briod ag Eduardo Hugas ac yn fam i Iñaki, sydd yn y coleg yn Buenos Aires, Valentina sydd yn Ysgol Camwy yn y Gaiman ac Ainara sydd yn yr Escuela Nueva ger Trelew.
Roedd yn ferch alluog, yn hoff o ganu ac yn rhugl yn y Gymraeg, y Saesneg ar Sbaeneg.
Bu'r gwasanaeth angladdol dan ofal Jorge Leccese gyda Marli Pugh de Villoria yn codi canu.
Bu Jorge yn ddisgbl i Dewi Mefin yn Ngholeg Camwy a dechreuodd Sandra ei hysgol gynradd yn Bethesda yn llaw Marli.
- Dathlu Rawson: Bu trigolion tref Rawson yn dathlu ei sefydlu 140 o flynyddoedd yn ôl ar Fedi 15, 2005.
Uchafbwynt yr ŵyl oedd "premiére" y ffilm ddogfen Caer Antur yn adrodd hanes dechrau Y Wladfa o safbwynt Edwyn Roberts.
Pobl leol oedd yn gweithio yn wirfoddol oedd yn actio a Patricia Lorenzo Harris, un o ddisgynyddion yr Hen Wladfawyr ac aelod o gyngor tref Rawson, oedd tu ôl ir prosiect.
Roedd y cine- teatro yn Rawson yn orlawn a phawb wedi mwynhau.
- Marw Gwalia - Bu farw Mrs Gwalia Hughes de Humphreys, Medi 10. Yr oedd yn fam i John, cadeirydd Eisteddfod Y Wladfa, Marta, Nelia a Glenda.
Roedd yn chwaer i Glyn Hughes ac yn wreiddiol o Moriah.
Bu'n fregus ei hiechyd ers rhai blynyddoedd ac yn cael pob gofal gan ei theulu. Bu'r angladd bnawn Sul yn Iglesia Metodista Argentina yn Nhrelew a mynwent gyhoeddus Trelew.
- Eisteddfod lwyddiannus - Bu eisteddfod y bobol ifanc hynod o lwyddiannus yn y Gaiman gyda rhagbrofion niferus ddydd Iau Medi 1 yn mynd ymlaen ar hyd y dydd.
Roedd plant y Gaiman ar corau lleol yn amlwg a chyfraniad plant Trevelin dan arweiniad María Esther Evans de Jones a chôr o ardal 3 de Febrero yn Nhalaith Buenos Aires yn cyfoethogi yr holl weithgareddau.
Agorwyd yr eisteddfod gan gerddorfa o bobol ifanc o Punta Arenas Chile.
Merch o Entre Ríos ennillodd y fedal am farddoni.
- Marw Meirionydd Griffiths - Dydd Gwener Medi 2, 2005, bu farw y Br. Meirionydd Griffiths yn 85 oed.
Roedd yn byw yn y Gaiman, ger capel Bethel mewn tŷ "ffwrn" ac yn briod a Violeta Phillips o deulu Phillips Brazil.
Bu'r angladd ym mynwent y Gaiman.
Roedd Meirion yn wreiddiol o ardal Tir Halen a bu yn cadw llygad ar gapel Bethel ers iddo ef a Violeta symud i fyw yn y Gaiman.
Buont yn byw am flynyddoedd yn Lle Cul ar y ffarm "Cilsant" oedd yn perthyn i deulu Violeta. Marcia, merch Meirion a Violeta, sy'n edrych ar ôl swyddfa y Steddfod yn Nhrelew yn lle Sandra Day.
- Llwyddiant arholiadau - Bu Azul de Pol yn llwyddiannus iawn yn ei harholiadau TGAU yn Ysgol Gyfun Glantaf Caerdydd er mai dim ond ychydig dros ddwy flynedd sydd er pan symudodd Azul i Gymru o Drevelin cafodd un A*, 5 A, 4 B ac un C.
|