Pobl Patagonia yn cofio arloeswr Ddydd Gwener, Tachwedd 26, roedd Trelew, Rawson a Moriah yn Nyffryn Camwy, Chubut, yn cofio marw un o'i sylfaenwyr a'r un a weithiodd yn galetach na neb, efallai, tuag at lwyddiant y fenter fawr o sefydlu Gwladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Eraill a gafodd y freuddwyd ond Lewis Jones oedd yno ym mhwys a gwres y dydd yn ceisio sicrhau fod y breuddwydion yn troi'n wirioneddau ymarferol. Iddo fo mae'r diolch fod y rhan fwyaf o'r Cymry a ymfudodd i'r Wladfa yn y flwyddyn 1865 wedi aros yno.
Cant a mil Gwnaeth gymaint dros y Wladfa newydd hon, gan fod yn lladmerydd rhyngddi a'r llywodraeth yn Buenos Aires, cychwyn dau bapur newydd y mae un ohonyn nhw, Y Drafod, yn fyw hyd heddiw, rhoi cychwyn 'r syniad o reilffordd i gysylltu'r Dyffryn a'r porthladd ym Madryn er mwyn hyrwyddo masnach, a chant a mil o bethau eraill.Teg iawn felly, ar ganmlwyddiant ei farw, bod y bobl yma yn ei gofio gyda chryn dipyn o rwysg a balchder.
Bu'r seremoni gyntaf yn yr ysgol yn Nhrelew y rhoed arni enw Lewis Jones, gyda rhai o bwysigion y dref a'r cymdeithasau lleol, ynghyd â phlant yr ysgol, yn cymryd rhan.
Fel sy'n arferol mewn seremoni o'r fath roedd baneri Cymru ac Ariannin yn amlwg iawn yma fel ym mhob un arall o'r prif seremonïau, a chanwyd anthem genedlaethol y ddwy wlad.
Drwy gydol y dydd cafwyd areithiau yn sôn am gyfraniad Lewis Jones, ac yn sicr, byddai pawb oedd wedi mynychu pob seremoni yn gwybod y cyfan amdano erbyn diwedd y dydd.
Ar dir yr ysgol hon mae cerflun o ben Lewis Jones ac yma gosodwyd torch o flodau.
Munud o ddistawrwydd Er mai i Drelew y rhoddwyd enw Lewis Jones, Rawson, neu Trerawson fel yr oedd ar y dechrau oedd sefydliad cyntaf y Cymry, ac yno yng Nghapel Berwyn, y cynhaliwyd y seremoni nesaf a hynny yn yr awyr agored.
Digon tebyg oedd y patrwm yma, ond yn ogystal â'r hyn a gafwyd yn Nhrelew fe ostyngwyd y baneri oedd ar y polyn y tu allan i'r capel a chael munud o ddistawrwydd er cof cyn eu codi eilwaith.
Wedi'r seremoni swyddogol aeth pawb i mewn i'r capel i gynnal gwasanaeth byr, ble cafwyd ychydig o eiriau mwy personol am Lewis Jones gan ei or-wyres, Luned Roberts de González.
Dadorchuddio plac Erbyn hyn, roedd y bore drosodd ond nid felly'r cofio. Yn Nhrelew, am bump o'r gloch, dadorchuddiwyd plac ar dalcen y tŷ ble bu Lewis Jones yn byw a ble sefydlodd Eluned Morgan, ei ferch, ysgol.
Ychydig oedd y rhai a ddaeth ynghyd yma yng ngwres y dydd ond roedd y dadorchuddio yn urddasol yn ei symlrwydd.
Cyfarfod ola'r dydd oedd un yng Nghapel Moriah. Yma, yn y fynwent ble gorwedd cymaint o'r hen wladfawyr, y mae bedd Lewis Jones a'i wraig ac yma y gosodwyd torch o flodau gan rai o'i ddisgynyddion.
Digon tebyg oedd y gweithgareddau y tu allan i'r capel, ac yma eto, ar ôl y seremoni cafwyd gwasanaeth byr yn y capel ei hun. Hyfryd oedd gweld tair o or- or- wyresau Lewis Jones yn canu dau emyn, un ohonyn nhw yn y Gymraeg.
Teimladau cymysg A'r argraff a gafodd hyn oll ar un o Gymry oedd yn ddigon ffodus i fod yma yr amser iawn? Cymysg oedd y teimladau ar ddiwedd y dydd. Roedd siom o weld nad oedd mwy o bobl yn barod i dalu eu gwrogaeth i ddyn mor fawr ac mor amlwg, un na fyddai'r Wladfa'n bod oni bai amdano.
Tybed beth fyddai'r gwron yn ei ddweud am y diffyg Cymraeg yn yr holl weithgareddau?
Siaradodd neb air ohoni, dim ond canu pennill o ambell emyn a'r anthem genedlaethol.
Oedd, wrth gwrs, roedd yno nifer fawr nad oedden nhw'n deall Cymraeg, ond mae'n amlwg nad ydi'r meddylfryd o wneud pethau'n ddwyieithog ddim wedi cyrraedd Y Wladfa.
Gobeithio nad ydi Lewis Jones yn troi yn ei fedd, druan!
|