Yr oedd y lle yn orlawn ar gyfer cyhoeddi llyfr gan y diweddar Ieuan May Jones yn Ysgol William C Morris, Dolavon, Mawrth 14 2009.
Cyhoeddwyd Bardd y Neuadd Wen - sef James Peter Jones - gan deulu'r awdur gyda chymorth Cymdeithas Cymru Ariannin, Cymdeithas Dewi Sant Trelew a Gorsedd y Wladfa.
Golygwyd y llyfr gan Cathrin Ll Williams o Borthaethwy, Ynys Môn, gyda help Esyllt Nest Roberts de Lewis o'r Gaiman.
Roedd clawr y llyfr wedi ei baratoi gan Eurgain Roberts de Jones, chwaer yn nghyfraith Ieuan, ac fe'i cyhoeddwyd gan gwmni o Drelew.
Roedd llawer o deulu Ieuan yn bresennol: Eryl, ei weddw, Eleri, ei ferch, Ivan Arlen, ei fab, wyrion ac wyresau ac yn y blaen.
Hefyd, llawer o deulu James Peter Jones - bardd y Neuadd Wen - yn eu mysg ei ddwy ferch: Valmai a Dwli (Naiad Wyl), Oscar Arnold un o´i wyrion, Griselda Agesta un o'r wyresau ac eraill.
Roedd y cwrdd yn cael ei arwain yn y Gymraeg gan Gabriel Restucha.
Cyfeiriodd Cathrin Williams at sut y daeth y llyfr i fod a darllenodd Esyllt bedair cerdd o waith James Peter Jones, diolchwyd ar ran y teulu gan Eryl yn Gymraeg ac Eleri yn y Sbaeneg.
Cafwyd dwy dôn gan gôr Dolavon a Thir Halen dan arweiniad Elmer Davies de MacDonald a chyfeiriodd Gweneira Davies de González de Quevedo at atgofion am James Peter Jones a fu'n ei dysgu i adrodd pan yn blentyn.
Bu ymgomio melys ar ddiwedd y cwrdd dros damaid a llwnc ac roedd cymaint o alw am y llyfr y bu'n rhaid i'r rhai oedodd brynu fynd adref heb gopi.
Ond bydd rhagor o gopïau yn barod yn fuan. Pris y llyfr yw 25 peso.