Hi hefyd oedd golygydd Y Drafod, papur Cymraeg sy'n dyddio o ddyddiau cynnar y Wladfa. Bu'n cyfrannu iddi yn ddeg oed - ac yn ei golygu hyd yn oed yn awr yn ei hwythdegau.
Dros y blynyddoedd sgrifennodd ddegau o ysgrifau ac erthyglau am arferion a hanes Y Wladfa.
Yn ganolog i holl weithgarwch y wraig fechan, swil yr olwg hon yr oedd y gred ym mhwysigrwydd y traddodiadau Cymreig ym Mhatagonia ei hun.
"Mae'n bwysig fod yr iaith yn dal i gael ei siarad. Mae deall Cymraeg yn help i bobl ddeall eu hunain yn well a gwybod pwy ydyn nhw," meddai hi unwaith.
Cathrin Williams o Borthaethwy - ffrind ac awdur cyflwyniad i gasgliad o waith Irma - yw awdur y deyrnged hon i wraig dra arbennig ac un a fu'n allweddol i gadw'r iaith a'r diwylliant Cymraeg yn y fyw ym Mhatagonia.
Meddai Cathrin Williams: Gyda thristwch y clywodd ei chyfeillion yng Nghymru am farw Irma Hughes de Jones ar ddydd Gwener y Groglith.
Ac er mai yn Ariannin y ganed ac y magwyd hi, roedd ganddi ddwsinau o ffrindiau yma yng Nghymru, a llawer mwy na hynny o edmygwyr.
Irma Hughes de Jones, Irma Ariannin, Irma'r Drafod, a'r tri enw yn cynrychioli gwahanol agweddau ar fywyd y wraig ryfeddol hon.
Merch ffarm Fe'i ganed yn y flwyddyn 1918 ar ffarm Erw Fair yn ardal Treorci, Dyffryn Camwy, Y Wladfa, ac yn Nyfryn Camwy y bu hyd y blynyddoedd olaf hyn pan aeth at ei merch, Laura, i'r Gaiman.
Ond dim ond ei chorff aeth yno, roedd ei henaid a'i hanian yn dal ar y ffarm gyda'r gwartheg, yr ieir, y cwn a'r cathod di rif.
Gwraig, mam a ffarmwr oedd hi'n bennaf, ond petai hi wedi bodloni ar fod yn hynny'n unig fyddai hi ddim wedi dod i amlygrwydd fel y gwaeth.
Doedd gwaith y ffarm, cadw ty, edrych ar ôl y teulu, coginio, gwau a gwnïo ddim yn ddigon iddi.
Na, roedd anian y llenor yn Irma erioed.
Wedi'r cyfan, 'doedd hi'n ferch i Arthur Hughes, golygydd Cywyddau Cymru a Gemau'r Gogynfeirdd, a doedd yntau'n fab i Gwyneth Vaughan, y nofelydd?
Ei chadair gyntaf Yn 28 oed, enillodd ei chadair gyntaf yn Eisteddfod y Wladfa, ac fe'i henillodd chwe gwaith wedyn.
Ac nid y gadair yn unig, wrth gwrs, ond sawl cystadleuaeth arall, yn farddoniaeth a rhyddiaith.
Yma, yn yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd hi'n enillydd cyson ar y gystadleuaeth ar gyfer pobl y Wladfa.
Oherwydd ei chyfraniad at fyd llenyddiaeth y cafodd ei derbyn i'r Orsedd yng Nghymru o dan yr enw Irma Ariannin.
Wrth gwrs, pan sefydlwyd yr Orsedd yn Y Wladfa yn 2001, fe'i hanrhydeddwyd yno hefyd.
Yn 1953 fe'i perswadiwyd i ymgymryd â golygu'r Drafod, y papur newydd Cymraeg a sefydlwyd gan Lewis Jones yn 1891.
Mae'n wir mai yn ysbeidiol y mae'n ymddangos, ond oni bai am Irma byddai wedi hen farw. Tybed sawl papur newydd arall fu o dan yr un golygydd am hanner can mlynedd?
Tair Iaith Roedd Irma'n ddarllenwr brwd mewn tair iaith. Darllenai bapurau newydd o Gymru gydag awch, a gwyddai lawer mwy am bopeth a ddigwydd yma nag y gwyr aml i Gymro.
Llythyrai gyda'i theulu a'i chyfeillion, a dengys y llythyrau hynny ei meistrolaeth lwyr ar deithi'r Gymraeg er na chafodd fawr ddim addysg ffurfiol mewn unrhyw iaith.
Ond nid gwybod manylion fel hyn am ei bywyd yw adnabod Irma Hughes de Jones. Gellid tybio, o wybod am ei gyrfa fel llenor a golygydd, ei bod yn berson hyderus, yn cymryd rhan amlwg ym mywyd cyhoeddus ei hardal.
Ond nid un felly oedd Irma.
Tawel a diffwdan Gwraig dawel, gwraig y cwmni bychan, dethol, oedd hi, yn ymhyfrydu yn ei theulu a'i chyfeillion, gwraig y seddau cefn yr oedd ei thalent fawr yn mynnu ei gwthio i'r amlwg.
Pan ddelai'r anrhydeddau fe'i derbyniai'n ddigon diffwdan, cyflawnai'r rhannau a wthiwyd arni gydag urddas swil gan encilio'n ôl yn syth i heddwch Erw Fair a'i dillad bob dydd.
Gwraig ei milltir sgwâr oedd hi, a'r filltir sgwâr honno a anfarwolwyd yn ei gwaith.
Gwyn fyd yr ardal a gafodd Irma'n lladmerydd iddi oherwydd tra pery'r iaith bydd ei darllenwyr yn gwybod am ardal Treorci, Y Wladfa.
Bellach, collodd yr ardal honno un o'r mwyaf a fu byw ynddi, a chollodd diwylliant y Wladfa gonglfaen na cheir byth un arall yn ei lle.
Mae eneidiau fel Irma'n brin yn ein byd materol, prysur ni ond mae cael eu hadnabod yn fraint na ellir ond diolch yn wylaidd amdani.
|