Daeth aelodau Aelwyd Crymych ynghyd yn neuadd yr ysgol am y tro diwethaf ar Ebrill 1 2004 cyn mentro i ochr arall y byd.
Hwn oedd y cyfarfod olaf cyn i dros hanner cant ohonynt deithio dros 7,000 o filltiroedd i rannu eu doniau gyda Chymry'r Ariannin.
Darganfod clocsio Cafwyd gwledd o ganu gan y côr cymysg, côr merched, partïon ac unigolion yn ystod y noson.
Ac i roi mwy o liw fyth iddi, diddanwyd y gynulleidfa gan grwpiau a pharau o glocswyr - talent sydd newydd gael ei darganfod yng Nghrymych gan ddwy o ddawnswyr Hafodwennog sydd wedi symud i'r ardal.
Fe fydd y Gwladfawyr wrth eu boddau gyda'r adloniant a baratowyd ar eu cyfer.
Bydd yr Aelwyd yn teithio ac yn diddanu cynulleidfaoedd yn y nos tra'n mwynhau'r croeso a'r golygfeydd godidog o'r byd natur anhygoel y byddant yn dod ar ei draws.
Disgwyl croeso Wedi'r cyngerdd cawsant gyfle i holi cyn deithwyr a rhai o gyn athrawon y prosiect dysgu Cymraeg sut dywydd fyddai'n eu disgwyl ac am unrhyw gyngor oedd angen arnynt cyn mynd.
Cawsant gyngor i fynd â sbectol haul a throwsusau gyda gwast elastig fel bod lle iddynt ennill modfeddi ar ôl bwyta'r holl gig, empanadas ac wrth gwrs y teisennau hyfryd mae gwragedd Y Wladfa'n enwog amdanynt - yn enwedig y deisen hufen!
Ond yn bennaf cynghorwyd hwy i fwynhau'r profiad a'r croeso bythgofiadwy fyddai'n eu disgwyl.
Cyn iddynt fynd adre i bacio rhannwyd llond lle o lyfrau y mae'r gymuned leol o dan arweinyddiaeth aelodau'r Aelwyd wedi bod yn eu casglu ar gyfer eu prynu.
Bydd dosbarthiadau'r Wlafa yn meddwl fod Sion Corn yn aelod o Aelwyd Crymych!
Rhannwyd y llyfrau yn gyfartal rhwng pob un o'r cymunedau ym Mhatagonia lle mae'r dosbarthiadau Cymraeg yn cael eu cynnal ac er y bydd yn bythefnos o waith caled i'r Aelwyd mi fyddant yn cael pleser o'r mwyaf o weld ar wynebau'r trigolion yno y pleser y byddant yn ei roi iddynt a'r cymorth fydd eu hymweliad yn ei roi i'r dosbarthiadau.
Edrychwn ymlaen at ddarllen am y profiadau y byddant wedi eu cael ar ôl iddynt ddychwelyd.
|