Tair rhaglen radio mewn tair wythnos - dyna nod Dafydd Du pan aeth i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn ddiweddar. -Rhaglen ddogfen am blant a phobol ifanc a'u hagwedd at y Gymraeg, - Sioe o Asado - sef barbiciw Cymry Patagonia - ac - Uchafbwyntiau'r Eisteddfod flynyddol. "Taith mewn dau dacsi, dau fws, dwy awyren ac un picyp a barhaodd 35 awr ac yr oeddwn wedi cyrraedd y Gaiman," meddai Dafydd. Calon Lân ar yr awyren "Un o uchafbwyntiau'r daith? Roeddwn i ar yr awyren o Buenos Aires i Drelew ac fe eisteddodd dynes ganol oed o'r enw Silvia wrth fy ymyl. "Rywsut, deallodd mod i o Gymru ac fe fynnodd ganu Calon Lân i mi. Dwi ddim yn meddwl fod ganddi yr un dafn o waed Cymraeg a doedd gen i ddim digon o Sbaeneg i wybod sut ac ymhle y dysgodd hi'r emyn. Ond fe'i canodd yn ddigon da. "Roedd y paith yn sych ag yn faith a'r croeso - fel y tywydd - yn gynnes. Ail sioc y daith oedd clywed record o Hogia'r Wyddfa ar y radio - sioc anferthol. Adfywiad yn cychwyn "Roedd y Gymraeg i'w chlywed ac arwyddion yn yr iaith i'w gweld ond teimlo roeddwn i ar ddechrau'r daith mai cychwyn mae'r adfywiad a bod llawer o ffordd i fynd. "Treuliais fy noson gynta yn Y Dafarn Las ac er mor felys y cwrw Quilmers ac er mor ddifyr y cwmni roeddwn i wedi blino'n lân a gorfod mynd i 'ngwely'n gynnar - tua phump y bore oedd hi! Dydy pobol ddim yn mynd i'w gwelyau mor gynnar ym Mhatagonia - ond maen nhw'n cael siesta yn y prynhawniau! "Y daith nesa oedd o'r Dyffryn fyny i'r Andes. Rwan 'mod i wedi blasu'r gwin rhad roeddwn i'n ysu am flasu'r Maté - ewadd stwff sur. Fel sugno dwr drwy faco! Pawb yn sugno fo drwy welltyn o gwpan a'i basio fo o un i'r llall. Doedd o ddim yn beth hygienic iawn am wn i. Petae dolur gwddf gan un person, maen siwr gen i y bydde pawb yn cael dolur gwddf. Mewn bws dros y paith "Yr ail wythnos, aethon ni mewn bws ar hyd y Paith. Maen nhw'n dweud na fedrwch chi werthfawrogi'r Paith onibai eich bod chi mynd mewn bws. Naw awr a hanner o daith. Dwi'n cofio Rhyd-yr-Indiaid - byddai Clint Eastwood yn ymddangos yn ddigon cartrefol yno. "Daeth plismon mewn i'r bws a dod yn fygythiol ata i - fe gês i dipyn o fraw ond wedi iddo weld fy mhasport i roedd e'n llawer mwy cyfeillgar. "Syndod mawr oedd canfod mor debyg yw'r Andes i'r Wyddfa - onibai bod dim parotiaid gwyllt na phiwmas ar ochrau'r Wyddfa. "Un o ryfeddodau'r daith oedd sefyll wrth ymyl Llyn Brychan uwchben Trefelin a deall yn union sut y cafodd Cwm Hyfryd yr enw. Wedi bod mewn bws am bron i ddeng awr yn teithio ar draws y paith sych roedd gweld y cwm gwyrddlas yn fendigedig. "I'r Cymry wedi taith o dri mis, mae'n siwr ei bod yn olygfa ryfeddol. "Cawson ni groeso gynnes yn Esquel a Threfelin ond wedi tridiau roedd yn rhaid symud ymlaen unwaith eto. Bechgyn Y Bwthyn "Yn y Gaiman fe gês i'r profiad o ymweld â chymdeithas dynion Y Bwthyn. Maen nhw'n cwrdd bob nos Wener, pob un yn cyfrannu pum peso tuag at gynnal ty yr athrawon Cymraeg. Fe gawson ni asado (arall), jwg fawr o win a mwynhau sgwrs a chân i gyfeiliant gitâr. "Dim ond dau oedd heb rywfaint o waed Cymreig - ond pob un yn dallt rywfaint o'r iaith. "Ar ôl sawl gwydriad o win fe gytunais i adrodd Llyn y Gadair, T. H. Parry-Williams - ac fe wnes i hynny gydag angerdd. Diolch i'r gwin! "Mae pawb yn gwybod yn iawn pryd i stopio yfed - does byth ddim meddwi yn y Wladfa.
Yn yr Eisteddfod "Yr wythnos ola aethon ni i'r Eisteddfod yn Nhrelew. Roedd cystadlaethau llefaru a chanu yn Gymraeg a Sbaeneg. Roedd hyn yn rhyfedd - roedd llawer mwy o angerdd yn y canu Cymraeg nag yn canu Sbaenaidd. Ond yn y cystadlaethau adrodd roedd y llefaru yn llawer mwy cynnil yn y Gymraeg ac yn hwyliog dros ben yn y Sbaeneg. "Bu'n ddiwrnod ofnadwy o brysur, rwy'n siwr i mi gyfweld tua 30 o bobol - yn feirniaid, bardd y Gadair a chystadleuwyr. "Ac yr oedd hi'n noson hwyr fel hen Eisteddfodau lleol yng Nghymru - tuag un o'r gloch y bore. Yr unig wahaniaeth oedd fod pawb yn lle mynd adre yn mynd ymlaen i dafarn neu i neuadd am fwyd a'r hwyl yn parhau tan tua saith o'r gloch y bore. Diweddu lle bu dechrau'r daith "Daeth y tair wythnos i ben gydag ymweliad â Phorth Madryn - profiad swreal. Y fi yn gorffen fy nhaith lle dechreuodd taith y Gwladfawyr. Yr oedd yn brofiad eitha emosiynol o wybod be ddigwyddodd i'r Cymry. "Mae hi yn sicr yn stori o lwyddiant o dan amgylchiadau sy'n swnio'n ofnadwy. Ac y mae ôl y Gymraeg a diwylliant Cymru mor amlwg ar ardal mor fawr."
|