Bydd 200 o ysgolion ym Mhatagonia yn derbyn pecynnau addysg arbennig o Gymru fel rhan o ddathliadau Gŵyl y Glaniad 2007.
Cyhoeddir y pecynnau gan Culturenet Cymru ac maen nhw'n cynnwys set o ddeg cerdyn dwy-ochrog teirieithog yn adrodd hanes y Cymry a ymfudodd o Gymru i Batagonia yn 1865.
Seiliwyd y cardiau ar ddelweddau cyfareddol o wefan a lansiwyd ym mhresenoldeb Prif Weinidog Cymru a Rhaglaw Chubut yn gynharach yn 2007.
Mae pob delwedd yn gysylltiedig â rhyw agwedd o'r fenter, o'r daith hir ar y Mimosa yn 1865 i'r eisteddfodau sy'n dal i gael eu cynnal ym Mhatagonia heddiw.
"Gobeithiwyd y byddai'r wefan Glaniad yn adnodd addysg i ysgolion ym Mhatagonia yn ogystal â Chymru ond, wrth drafod y mater gydag unigolion o'r rhanbarth, sylweddolwyd bod trafferthion gyda mynediad i'r we yn rhwystro ysgolion rhag gwneud defnydd llawn o'n hadnoddau," meddai Swyddog Addysg Culturenet Cymru, Sioned Rees-Jones.
"Mewn ymateb, fe ddechreuon ni weithio ar set o ddeg cerdyn A3 tairieithog a fyddai'n adrodd hanes y Wladfa gyda delweddau o wefan Glaniad," ychwanegodd.
"Wrth bod dogfen Cymru'n Un y Llywodraeth glymblaid newydd yn cynnwys ymrwymiad i fynd ati i weithio o fewn i'r Memorandum Cyd-ddealltwriaeth sydd wedi ei arwyddo gan Gymru a Thalaith Chubut, gobeithiwn y bydd cardiau Glaniad yn hyrwyddo'r cysylltiad rhwng y ddwy wlad yn ogystal â helpu plant yng Nghymru a Chubut i ddysgu am y bennod ryfeddol hon yn hanes Patagonia," meddai.
Bydd y cardiau, sydd bellach gyda'r argraffwyr, yn cael eu dosbarthu i ysgolion yn Chubut dros y misoedd nesaf.
Yn y llun (trwy ganiatâd Amgueddfa Hanes y Wladfa yn y Gaiman): Disgyblion Ysgol Maesteg, Patagonia, yn mwynhau gwledd Archentaidd.
|