Prynhawn Llun, Mawrth, 6, 2006, daeth llu o bobl ynghyd i dystio i agoriad swyddogol Ysgol yr Hendre Trelew.
Ysgol newydd ydy hon sy'n agor ei drysau heddiw i blant tair, pedair a phump oed a'r hyn sy'n arbennig amdani ydy ei bod yn ysgol ddwyieithog Gymraeg a Sbaeneg swyddogol.
Mae Awdurdod Addysg Talaith Chubut, yr Ariannin wedi derbyn, caniatau a hyd yn oed hybu sefydlu'r ysgol hon.
Yno i dystio i'r achlysur roedd Ysgrifennydd Addysg y Dalaith, Mirta Romero, a nifer o weinidogion ac ysgrifenyddion Talaith Chubut a Chyngor Tref Trelew yn symbol o'r derbyniad gwresog mae'r ysgol hon wedi ei gael.
Yno hefyd yr oedd rhieni'r ysgol, ffrindiau a phobl o bob rhan o Ddyffryn Camwy oedd wedi penderfynu eu bod am fod yn bresennol i'r digwyddiad hanesyddol hwn.
Yn cyflwyno'r seremoni roedd Susana Celano Davies a groesawodd y swyddogion a'r cyhoedd cyn gwahodd Enrique Korn, llywydd Cymdeithas Gymraeg Trelew i ddweud gair.
"Deuparth gwaith ei ddechrau," oedd ei eiriau wrth sôn am y syniad tu ôl i'r ysgol.
Yna siaradodd Javier Cunha, Ysgrifennydd Addysg Trelew sydd wedi hybu'r ysgol o'r cychwyn ac sydd wedi rhoi pob cefnogaeth i'r cynllun.
Wedi hyn cododd Catrin Morris ar ei thraed a gofyn i bawb ddathlu gyda hi fodolaeth yr ysgol hon ac ymfalchïo yn yr hyn sydd wedi ei gyflawni.
Darllenodd eiriau Dafydd Wigley a obeithiai "y bydd popeth yn mynd o nerth i nerth. Llongyfarchiadau i chwi oll am fentro - a chredu!"
Y gweinidog addysg siaradodd nesaf gan ddweud fod bod yn dyst i agor ysgol bob amser yn destun llawenydd ond ysgol fel hon yn fwy byth.
Ar hynny dadorchuddiwyd plac yr ysgol a gwahoddwyd y plant bach i ganu.
Judith Jones â'u harweiniodd i gyfeiliant Mari Philips, athrawes newydd o Gymru.
Canodd y plant bach amryw ganeuon cyn i ni glywed pedwarawd Billy, Gladys, Roberto a Judith yn canu 'Pererin y Plant'.
Yna, ymunodd y gynulleidfa i gyd i ganu 'Calon Lân' cyn i Mirta Romero a Catrin Morris gyda rhai o blant yr ysgol feithrin dorri'r rhuban ac agor yr ysgol yn swyddogol.
Cafwyd dathlu mawr dros baned o de a theisen ddu Patagonia a chyfle i sgwrsio ac edrych ar yr adeilad - cartref newydd yr ysgol - Ysgol yr Hendre Trelew, Patagonia.
Diolch i chi i gyd am eich cymorth i wireddu breuddwyd yma ar y paith pell ym Mhatagonia.
|