Dau gyfraniad i Gofio Fred Green: - Dolen gyswllt a'r gorffennol - Cathrin Williams yn cofio Ym marwolaeth Fred Green collodd y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia un o'i chymeriadau hynotaf a dolen gyda chychwyn y fenter ryfeddol yn yr Ariannin. Yn wr diwylliedig, cadarn ei Gymreictod, yr oedd Fred Green hefyd yn hyddysg yn arferion y paith a chanddo ymwybyddiaeth ddofn a gwybodaeth drylwyr o'r etifeddiaeth Gymraeg. Yn ddisgynnydd y mewnfudwyr cyntaf siaradai amdanynt o adnabyddiaeth a drosglwyddwyd yn uniongyrchol gan eich rhoi chwithau mewn cysylltiad uniongyrchol a hwy hefyd. Ei daid a'i nain a ddaeth i'r Ariannin o Gymru; ar y Mimosa yn 1865. R.J. Berwyn oedd y taid, cofrestrydd cyntaf y Wladfa ac yn un o'r 12 aelod o'r Cyngor a etholwyd i lywodraethu yno. Ef hefyd oedd golygydd y newyddiadur cyntaf, Y Brut, a'r athro cyntaf yno.
Wrth hel atgofion cyfeiriai Fred yn aml iawn at "Taid Berwyn" ac nid oes amheuaeth nad oedd yn eilun yn ei olwg a'i ddylanwad yn fawr arno. Y gwr hwnnw a fyddai'n mynnu fod y plant yn brawddegu'n gywir ac yn safonol gan arddel geiriau Cymraeg yn unig fel "Bonwr" yn hytrach na'r "Mr" Saesneg. Yn naturiol ddigon, y Gymraeg oedd iaith aelwyd Fred Green yntau ac i sicrhau y gallai ei bedwar plentyn - dwy ferch a dau fab - ysgrifennu yn ogystal â siarad yr iaith anfonodd y ddau hynaf i Ysgol Tregaron am ddwy flynedd ac yn ddiweddarach anfonodd y naill o'r ddau arall i goleg amaeth Llysfasi yng Nghlwyd a'r llall i Aberystwyth am ddwy flynedd gan gynnwys blwyddyn yn y Coleg Addysg Bellach yno. Yr oedd yn Steddfotwr brwd a theithiai'r chwe chan milltir o Gwm Hyfryd i'r Gaiman a Threlew ar gyfer Eisteddfod yr Ifanc ac Eisteddfod y Wladfa bob blwyddyn. Yr oedd Fred Green hefyd ymhlith y nifer fechan o Wladfawyr a oedd yn medru Saesneg. Yr oedd yn ymwelydd cyson â Chymru ac ar ymweliad yn 1983 cofnododd ei atgofion, Pethau Patagonia, a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Mei y flwyddyn wedyn. Yn y flwyddyn 2000 yr oedd ei ymweliad olaf. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf yr oedd yn arferiad ganddo dreulio'r gaeafau o Batagonia gan na allai ddygymod, meddai, a'r oerni. Er gwaethaf ei oed teithiai ei hun nid yn unig yng Nghymru ond ar Gyfandir Ewrop hefyd. Yr oedd ei ddiddordebau yn eang gan ymddiddori mewn digwyddiadau bydeang yn wleidyddol ac ym myd busnes gan ddarllen yn helaeth. Yr oedd yn uchel ei ganmoliaeth o'r National Geographical Magazine. Yr hyn a fyddai bob amser yn rhoi blas ar ei sgwrs fyddai wybodaeth am hanes ac arferion y gwladfawyr. Wedi treulio llawer o amser yn y cyfrwy yr oedd yn hyddysg yn arferion y paith neu'r "camp" fel y geilw'r gwladfawyr eu ffermydd ar y paith. Ond ffafriai ychen yn hytrach na'r ceffyl fel anifeiliaid gwaith. "Anifail digon twp ydi'r ceffyl - mae ychain yn gallach o lawer," meddai. Yr oedd yn hyddysg mewn dulliau hela a gallai nid yn unig restru bob un o'r lleoedd arwyddocaol ar yr hirdaith o Ddyffryn Camwy i Gwm Hyfryd a'r Andes ond hefyd egluro arwyddocâd enwau fel Nant y Pysgod, Dyffryn yr Allorau, Bocs Gin ac ati. Yr oedd ganddo adnabyddiaeth uniongyrchol o lawer o'r hen gymeriadau neu yr oedd o fewn un cenhedlaeth i'w hadnabod ac yr oedd yr hanesion amdanyn nhw yn fwy ar ei gof. Cofiai gyfarfod a'r cymeriad hynod hwnnw John Daniel Evans - dyn tawel a dwys, oedd ei gof ohono. Bu Fred Green farw yn Nhrevelin, yng Nghwm Hyfryd a oedd mor annwyl iddo, yn 88 oed. Meddai Cathrin Williams, yn sgrifennu o Batagonia: Roedd y Bnr Fred Green yn ddyn gwahanol. Roedd yn edrych yn wahanol, gyda'i hances yn lle tei a'r chal llydan dros ei ysgwyddau pan fyddai'n oeri. Gwisgai fel rhyw gaucho soffistigedig a thynnai sylw pan gerddai strydoedd Trevelin ac Esquel gyda'i gorff main yn syth. Roedd ei Gymraeg yn fwy Cymreig nag eiddo'r Cymry a mynnai ei siard yn ei phurdeb gan ddefnyddio geirfa oedd, ar adegau, yn hynafol ac yn ddieithr i'r glust. Mynnai fod ei deulu'n Gymry da ac i'r diben hwn roedd wedi anfon dau o'r plant i Gymru i gael eu haddysg uwchradd, a bu'r ddau arall yno, hefyd, pan oeden nhw ychydig yn hnach. Gwyddai lawer am Gymru, ond gywddai fwy am ei wlad ei hun, yn enwedig talaith Chubut. Fred Green wrth law, doedd dim angen llyfrau am ei hanes, ei thirwedd na'i bywyd gwyllt, ac mae ei hunangofiant, Pethau Patagonia, yn dyst o hynny. A pha ryfedd fod y gwr hwn yn ymgorfforiad o'r pethau hynny sy'n cyfrif i'r Cymro, ac yntau yn wyr i un o'r Hen Wladfawyr, R. J. Berwyn, un a wnaeth gymaint dros y sefydliad yn y blynyddoedd cynnar. Bu Fred Green yn byw am flynyddoedd ar ei estancia, Primavera, yn ardal Rhyd yr Indiaid. Symudodd oddi yno i Pennant, y tu allan i Drevelin, a chafodd dwsianau o Gymry groeso ar ei aelwyd o a Vera, a chael mwynhau cwmni'r plant, Charle, Mary, Alwen ac Erik Iolo. Ond roedd ei fyd yn llawer ehangach na'i filltir sgwar gan ei fod yn siarad drwy'r radio â chyfeillion yng Nghymru a mannau eraill. Ac roedd anian y crwydryn ynddo. Ymwelai'n gyson â Chymru ac, yn ddiweddar, a Gibraltar. Pam Gibralta, tybed? Wel, am fod Y Bnr Fred Green yn ddyn gwahanol. Fydd y Wladfa ddim yr un fath i lawer o Gymry hebddo.
|