Gorffennaf 2008
Ar Orffennaf 28 bob blwyddyn mae Cymry Patagonia yn dathlu glaniad yr Hen Wladfawyr yn y Bae Newydd ym Mhorth Madryn ym 1865.
Eleni rydym yn dathlu 143 o flynyddoedd.
Fel rhan o'r dathliadau mae capeli'r dyffryn yn agor eu drysau i weini te i ymwelwyr ac mae'r gystadleuaeth yn gref! Cewch fwyta bara menyn, jam cartref, teisen blât, teisen hufen, teisen ddu a phob math o gacennau eraill sy'n temtio'r llygad a'r bol.
Actio'r glaniad Eleni, am y tro cyntaf erioed, penderfynodd ein teulu ni fynd i weld y dathliadau ym Mhorth Madryn lle maent yn actio'r glaniad cyntaf hwnnw wrth i'r Cymry cynnar rwyfo i'r lan i'w croesawu gan Edwin Cynrig Roberts ac Indiaid brodorol y Tehuelches ar gefn ceffylau. A dyna a fu eleni!
Ers awr fe welwyd cwch bach gwylwyr y glannau allan yn y bae. Wrth iddo'n raddol ddod yn agosach fe welwyd, ymysg y rhwyfwyr, hanner dwsin o bobl wedi eu gwisgo yn nillad y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Carient faner Cymru a baner y Wladfa newydd - draig goch ar gefndir glas a gwyn, sy'n cyfuno baner yr Ariannin a baner Cymru.
Ar y traeth yn eu disgwyl gyda dwy faner debyg yr oedd cymdogion yn cymryd rhan Edwin Cynrig Roberts ac eraill gyda thanllwyth mawr o dân gan fod y gwynt yn finiog oer.
Cân draddodiadol Bu helynt cael y gwladfawyr lawr o'r cwch i'r ceffylau ar y lan ond llwyddwyd yn y pen draw gyda llond y lle o gymeradwyo.
Roedd y cyhoedd yn gwylio'r cyfan o'r lan o gwmpas Amgueddfa Puenta Cuevas lle adroddir hanes y glaniad gwreiddiol.
Gorymdeithio wedyn at y brodorion a ganodd gân draddodiadol o groeso a dawnsiodd Criw o Ysgol Gerdd y Gaiman ddawns werin Gymraeg.
Râs y gasgen gwrw oedd yn dilyn - cynrychiolwyr yr Indiaid brodorol yn rasio yn erbyn cynrychiolwyr y Cymryl.
Dwi ddim yn credu fod llawer o wirionedd yn yr ail-greu hwn ond roedd yn gryn dipyn o hwyl er ei bod hi mor oer y bore hwnnw ym Mhorth Madryn.
Ni allwn ond dychmygu sut y teimlai'r Cymry cyntaf hynny o weld tir mor ddiffaith a theimlo gwynt llym Patagonia am y tro cyntaf y diwrnod hwnnw ym 1865.
Eleni, fodd bynnag, fe'n gwahoddwyd ni i de wedyn gan ffrindiau ond bu'n rhaid i ni godi o'r bwrdd bwyd yn gynnar gan ein bod yn cynrychioli Ysgol yr Hendre yn seremoni ailagor Pont yr Hendre yn Nhrelew am chwech o'r gloch y prynhawn.
Mynd a wnaethon ni, gan addo dychwelyd wedyn.
Adeiladwyd Pont yr Hendre ym 1888 mewn cydweithrediad rhwng y Cymry cynnar a'r Indiaid brodorol ond fe ddymchwelodd y bont mewn damwain angheuol yn hwyrach.
Ailadeiladwyd hi; ond ddwy flynedd yn ôl penderfynwyd nad oedd hi'n ddiogel bellach ac wedi ymgynghori â'r trigolion lleol penderfynwyd adeiladu pont haearn gref a'i gwisgo mewn pren, fel ei bod yn ymdebygu i'r bont wreiddiol - ind yn llawer cryfach.
Bu'r seremoni ym mhresenoldeb holl feiri pob un o'r trefi cyfagos, gweinidogion y dalaith a'r prif ddyn ei hun, Mario Das Neves, llywodraethwr talaith Chubut.
Arian i ysgol A'r peth cyntaf a wnaed oedd datgan fod talaith Chubut yn cytuno i adeiladu adeilad newydd i Ysgol yr Hendre! Gwych!
Golyga hyn fod talaith Chubut yn cydnabod, cefnogi a hyd yn oed yn hyrwyddo'r ysgol Gymraeg hon ac mae hynny'n gam mawr ymlaen i ni yn yr ysgol - o fod yn wynebu cau un wythnos i fod yn dathlu'r wythnos ganlynol. Gwych!
Cafwyd seremoni hyfryd, gyda chanu a dawnsio gwerin gan grŵp Gwanwyn Trelew, John Humphreys y pensaer, Cesar Gustavo MacKarthy, maer Trelew a Mario Das Neves ei hun yn siarad.
Uchafbwynt y cyfan oedd y tân gwyllt ac agor y bont yn swyddogol ond y gwir yw nad wyf yn cofio fawr ddim gan fy mod mor brysur yn asesu'r datganiad a'r cytundeb a arwyddwyd nes 'mod i'n methu canolbwyntio llawer ar ddim byd!
Camau breision Dydy'r newyddion ddim wir wedi suddo i mewn eto, er fy mod i wedi treulio amser yn pwyso a mesur popeth.
Credaf fod llywodraethwr y dalaith, drwy roi hanner miliwn o pesos i ni, yn cydnabod yr ysgol ac yn wir yn cydnabod y cytundeb a arwyddodd gyda Rhodri Morgan ddwy flynedd yn ôl.
Mewn gwirionedd mae'n rhoi hwb anferth i'r ysgol ac yn cynnig cydnabyddiaeth wleidyddol bwysig iawn.
Gobeithio y gallwn weld yr ysgol yn ffynnu nawr ac yn symud i'r dyfodol gyda chamau breision a hyderus.
Wedi'r seremoni dychwelwyd i'r Gaiman at ein ffrindiau a dathlu Gŵyl y Glaniad, a llwyddiant Ysgol yr Hendre mewn dull gwahanol - dros wisgi a sgwrs ac ambell emyn....wedi'r cyfan Cymry Patagonia ydym ni.
|