Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Theatr Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Hi wnaeth yr argraff fwyaf ar y beirniaid yn y gystadleuaeth alaw werin unigol yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Llwyddodd hefyd i gipio Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis am yr Unawd Alaw Werin dros 21 oed yn Eisteddfod Meirion a'r Cyffiniau.
Mae Catrin yn aelod brwd o Aelwyd yr Ynys ac mae hi bellach yn arweinydd a chyd sefydlydd côr meibion newydd sbon Ynys Môn.
Meddai Catrin: "Fedra i ddim diolch digon am y profiad dwi wedi ei gael wrth gystadlu.
"Dwi wedi mwynhau pob munud a does na ddim geiriau i ddisgrifio'r anrhydedd.
"Mae wedi bod yn brofiad arbennig a dwi wedi gwneud ffrindiau oes ar y daith.
"Does dim dwywaith y bydd yr Ysgoloriaeth yn mynd â fi ymhellach ac os y ca i hanner y llwyddiant y mae Bryn Terfel wedi ei gael yna mi fydda i wrth fy modd."
Rydym ninnau yn ymhyfrydu yn ei llwyddiant ac yn falch iawn fod yr Ysgoloriaeth wedi dod i ardal Y Glorian unwaith eto.
Dymunwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol. Y Glorian
|