91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
'Arthur Picton' a 'George Hughes' efo Mali a Mia Gŵyl Cefni 2005
Medi 2005
Bu'n haf prysur i Å´yl Cefni gan gychwyn gyda dwy noson i godi arian ym mis Gorffennaf.
Roedd Gwesty'r Bull dan ei sang ar Orffennaf 1 i fwynhau noson arbennig yng nghwmni'r ddau frawd o Lanrug, Brigyn, a Meinir Gwilym a'i band. Mae'r artistiaid ifanc hyn yn mynd o nerth i nerth dan ofal label Gwynfryn Cymunedol. Mawr yw'r disgwyl am albwm newydd Meinir a ddaw allan ym mis Tachwedd. Diolch i Richard a staff y Bull am eu cefnogaeth a'u croeso ar y noson.

Clwb pêl-droed Llangefni oedd y lleoliad ar Orffennaf 22 ar gyfer barbeciw a pherfformiadau gan Papa Gini, band ifanc newydd o Lanfairpwll a rocars bytholwyrdd Bethesda, Celt.

Da yw deall bod Celt yn bwriadu mynd i'r stiwdio i recordio yn yr hydref. Daeth tyrfa dda i'r clwb i fwynhau noson gyda llwyfan yn yr awyr agored.

Cychwynnodd gweithgareddau Gŵyl Cefni ar nos Fawrth, Awst 16, yng Nghlwb Pêl-droed Llangefni gyda gêm rhwng tîm o sêr radio a theledu a thîm ieuenctid Llangefni. Roedd tîm y sêr dan ofal y rheolwr enwog Arthur Picton. Yn gwmni iddo roedd George Huws. Daeth George ymlaen fel eilydd yn yr ail hanner yn lle Kev Bach Champion a sgorio gyda chic o'r smotyn i sicrhau gêm gyfartal. Mae Pwyllgor Gŵyl Cefni yn ddiolchgar iawn i swyddogion y Clwb Pêl-droed am eu cydweithrediad dros y ddwy noson ac edrychwn ymlaen at gyd weithio eto yn y dyfodol.

Noson gomedi gyda Tudur Owen, Bedwyr Rees, Beth Angell, Parri'r Barman a Ffarmwr Ffowc a gafwyd yng Nghlwb Wellmans, Llangefni, nos Iau, Awst 18. Roedd y clwb dan ei sang a phawb yn eu dyblau gyda sioe newydd y digrifwyr. Gobeithiwn ymweld eto â Chlwb Wellmans yng Ngŵyl Cefni 2006.

Daeth yr ŵyl i uchafbwynt ym Mhafiliwn Sioe Môn ar nos Wener a nos Sadwrn gyda pherfformiadau arbennig gan 1 Sain, Mojo, John ac Alun, Anhysbys, Vanta, Sara Mai a'r Moniars, Elin Fflur a Bryn Fôn a'r Band. Profiad arbennig oedd gweld cannoedd o freichiau yn yr awyr yn symud i gerddoriaeth y perfformwyr.

Hoffai Pwyllgor Gwaith yr ŵyl ddiolch i Cymunedau'n Gyntaf am nawdd at y digwyddiadau'n arwain at yr ŵyl, i Gyngor Sir Ynys Mon am grant Cronfa'r Degwm ac i'n prif noddwyr unwaith eto eleni, Menter Môn. Diolch arbennig i Siwan Owens a Helen Thomas o Fenter Iaith Môn am bob cymorth gyda gweinyddiaeth a threfniadau'r ŵyl.

Gwyliwch y wasg am fanylion digwyddiadau Gŵyl Cefni yn ystod y misoedd nesaf.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý