Ennill gwobr Mai 2009 Llongyfarchiadau i Marlyn Samuel, Pentre Berw am
Ennill cystadleuaeth y Fedal Ddrama am gyfansoddi
drama un act yng Ngŵyl Ddrama Eisteddfod Môn Amlwch a'r Cylch.
Gobeithir llwyfannu'r ddrama
fuddugol sef 'Y Hi a Fi' yn Theatr Fach Llangefni
ddechrau Mehefin.
Llongyfarchiadau i Marlyn hefyd am ennill Tlws
Coffa Charles Williams i Actor gorau'r Wyl.
Perfformiodd Marlyn ddrama Manon Wyn Williams
'Car dy Gymydog' yn y gystadleuaeth perfformio
drama un act.