Bydd Eleri (Cadeirydd), Alaw ac Arwyn (Siaradwyr) yn mynd ymlaen i gynrychioli Môn yng nghystadleuaeth Cymru ym Mawrth 2006 yn Nhrefaldwyn. Cafodd tîm Llangefni sef Bethan Williams, Elen Hughes, Alaw Jones a Gareth Pawson ail yn y gystadleuaeth cwis sirol. Bu llwyddiant aruthrol yn y 'Steddfod Sir ym mis Hydref wrth i'r c1wb ennill Tarian Geufron am y clwb gyda mwyaf o farciau yn yr Eisteddfod ac hefyd Cadair Norman Pensonby am ddod yn gydradd gyntaf yn yr Adran Lenyddiaeth. Mae mawr ddiolch i Mrs Menai Jones, arweinydd y côr Elen Wyn a'r gyfeilyddes Ceri Wyn. Diolch am eu brwdfrydedd a'u hymroddiad. Diolch yn bennaf i'r aelodau a'r arweinyddion. Braf oedd gweld pob un o aelodau Clwb Llangefni wedi cymryd rhan mewn rhyw ffordd yn ystod y diwrnod. Yn dilyn yr Eisteddfod Sir dewiswyd rhai o aelodau'r clwb i gystadlu yn Eisteddfod Cymru ym Mona. Roedd Martin Jones yn canu'r unawd dan 16 gan ennill y drydedd wobr. Yna'r Grŵp Pop yn dod yn ail, a'r Ddeuawd Ddoniol yn derbyn y drydedd wobr. Yn yr Adran Llenyddiaeth llongyfarchiadau i Mared Wyn Jones am ennill y wobr gyntaf hefo ysgrifennu monolog. Braf oedd clywed canmoliaeth mawr am lwyddiant Eisteddfod Cymru. Roedd y neuadd fawr ym Mona yn llawn. Drwy waith caled a threfnu gofalus Elen a Llinos yn y Swyddfa Sir a chydweithio ac ymdrech holl aelodau'r Clybiau a'u rhieni cafwyd diwrnod i'w gofio. Cofiwch am y rhaglen ar S4C ar Ragfyr 9fed.
|