Ond mae'n rhyfeddol meddwl sawl actor ac actores gafodd eu cyfle cyntaf yma ym Môn wrth gefnogi un o'r nifer o gwmnïau drama sydd wedi bodoli ar yr ynys dros y blynyddoedd.Oedd, yr oedd y 'ddrama' ym Môn yn fyw iawn drwy gydol y ganrif ddiwethaf gyda chwmnïau lleol yn ffynnu ac yn cadw cynulleidfaoedd yn ddiddan ac achosi dipyn go lew o grafu pen i ambell feirniad hefyd! Felly yr oedd hi yn Llangefni, oedd yn rhoi ei hun yn brif dref yr ynys, ac felly yn naturiol ddigon, yma y caed y symbyliad a'r arweiniad i sicrhau fod y ddrama yn dod, ac yn parhau i fod, yn gyfrwng cyfathrebu a diddanu byw iawn. Gweler e.e. 'Cofio'r Adnabyddiaeth' (Gol. O. Arthur Williams, Gwasg Pantycelyn) a 'Helynt a Heulwen' (O. Arthur Williams, Gwasg Pantycelyn 2000). Yma y cynhelid Gŵyl Ddrama'r Sir. Dyma gartref Cymdeithas Ddrama Llangefni oedd wedi ei hailsefydlu yn 1949.
Yn rhaglen Theatr Fach ar gyfer wythnos yr Eisteddfod Awst 1957 ceir crynodeb o hanes sefydlu'r theatr: "Agorwyd Theatr Fach Llangefni yn hen ysgubor Pencraig y 3ydd o Fai, 1955 bryd y llwyfanwyd dwy ddrama un act. Yr oedd lle i gynulleidfa o 63 eithr dim llawer o gysur rhag y tywydd.
Eto cymaint oedd y brwdfrydedd fel y cynyddodd ein haelodaeth (dechreuasom â 18 yn 1949). O 304 i dros 650 o aelodau sydd wedi talu eu tanysgrifiadau am y flwyddyn hon. Daeth yn amlwg y byddai'n rhaid i ni ehangu'r theatr i'w cynnwys acfelly, gyda chefnogaeth Cronfa'r Degwm yn yr ynys hon, ymgymerasom â'r gwaith fis Mai eleni. Costiodd y cyfnewidiadau yn agos i £1,000 ond bu'r aelodau'n hael iawn ac heddiw dim ond ychydig o arian sydd eto i'w gael cyn talu'r biliau i gyd. Ac y mae gennym theatr i eistedd 110 o gynulleidfa mewn seddau cyffyrddus.
Bu raid i ni alw'r gweithwyr i mewn i wneud y gwaith peryglus o rai trawst i mewn yn lle'r hen wal oedd rhwng y ddau hanner o'r theatr ac i wneud gwaith arall a oedd yn ormod i'r aelodau cyffredinol. Cafodd y pensaer amser go anodd yn ystod y misoedd diweddaf yn ceisio arolygu gwaith y gweithwyr cyflog ac ar yr un pryd ffrwyno sêl yr aelodau gwirfoddol a'u cael i weithio'n ôl ei gynlluniau. Ond llwyddodd Mr I. Hopkin Thomas D.F.C, A.R.I.B.A. (hefyd yn aelod o'r gymdeithas) i'n hachub ni rhag y camgymeriadau mwyaf - a gwnaeth y cwbl o'i wirfodd.
Y mae ein dyled yn fawr iawn hefyd i Mr Frank Taylor, trydanwr y Gymdeithas, a wnaeth yr holl drydanwaith ar ben ei hun - eto o'i wirfodd. Nid yw'n hawdd sylweddoli pa faint o waith y mae yn ei olygu, ond aberthodd Mr Taylor bob penwythnos ers Mai i'r gwaith ac hefyd pob nos arall yn ystod yr wythnos - pan ond oedd yn paratoi'r goleuadau at y ddrama a lwyfennir heno. Y mae Mr Taylor wedi bod yn gyfrifol am oleuo pob drama a lwyfannwyd yn y theatr hyd yn hyn ac ef yw ffotograffydd y Gymdeithas."
Mae mwy i hanes sefydlu'r Theatr Fach na hyn, wrth gwrs. Yn 1949 llwyfannwyd dramâu'r Gymdeithas yn Neuadd Ysgol y Sir ar y dechrau a chafwyd caniatâd i ddefnyddio'r labordy, fel gweithdy, yn yr hen ysgol pan agorwyd yr Ysgol Gyfun yn 1953. Yn 1954, penderfynodd y Pwyllgor Addysg dynnu'r hen ysgol i lawr a bu raid wynebu'r ffaith fod angen chwilio am gartref newydd, sefydlog. Ar y pryd yr oedd Cyngor Dinesig Llangefni wedi prynu Stâd Pencraig. Ymysg yr adeiladau oedd ysgubor helaeth a llofft stabal ynghyd â rhai ystafelloedd eraill. Cafwyd cytundeb y Gymdeithas i geisio sicrhau'r adeiladau drwy brynu, os yn bosibl, neu, o leiaf eu rhentu. Pan ddaeth y Gymdeithas yn denant am y tro cyntaf, talwyd rhent o 5/- yr wythnos! Yn ddiweddarach mentrwyd prynu'r adeilad am £250 swm a brofodd yn fuddsoddiad gwerth chweil.
"Yn niwedd Ionawr 1955 aeth criw o ryw ddau ddwsin o aelodau'r Gymdeithas ati i addasu'r 'sgubor yn ôl syniadau George Fisher...Gyda chyfarwyddyd I. D. Thomas, Dirprwy Bensaer y Sir ac aelod o'r Gymdeithas aethpwyd ati i dynnu i lawr y llofft ac un wal a defnyddio'r rwbel fel sylfaen i lwyfan ... trwy fisoedd y gaeaf a'r gwanwyn aeth y gwaith ymlaen yn ddi-stop am dair awr a hanner bob noson gwaith ... prynu defnyddiau o bob math, sicrhau cyflenwad digonol o drydan, a chwilio am gadeiriau esmwyth i'r gynulleidfa...ni thalwyd dimau goch am lafur - gwirfoddolwyr oedd pob un o'r gweithwyr." (Gweler "Francis George Fisher - Bardd a Dramodwr". Llewelyn Jones Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1983).
Fel ym mhob cyfnod yn hanes y Theatr, bu cnewyllyn o bobl ac aelodau yn gweithio'n frwdfrydig tu hwnt i wneud gwaith diflas yn y dirgel, fel pe tae, ond oedd yn sicrhau llwyddiant "yr ochr arall i'r llenni". Hwy yn anad neb fu, ac sydd, yn gyfrifol am lwyddiant a pharhad y Theatr.
"Cwblhawyd y gwaith yn dra effeithiol gyda'r cyfan yn ei le ar gyfer yr agoriad swyddogol ar 3 Mai 1955." ('Cysgodion Enciliedig: Theatr Fach Llangefni - Dafydd Llewelyn; "Llwyfannau Lleol" Gol. Hazel Walford Davies Gwasg Gomer 2000).
Ac felly y bu. Myra Owen, Cyfarwyddwraig Pwyllgor Cymreig Cyngor y Celfyddydau a wahoddwyd i agor y Theatr yn swyddogol ar Fai 3ydd, 1955 a pherfformiadau o 'Rwscala' - addasiad o waith Pushkin gan Cynan a 'It's Autumn Now' gan Philip Johnson a ddewiswyd i ddiddanu'r gynulleidfa.
Cynhyrchydd 'Rwscala' oedd Tecwyn Jones a'r cast oedd Eleanor Webber, Leslie Hodgkins, Owen E. Jones, Diana Jones, Beti Jones, Ann Owenna Evans, Eirian Harries ac Edward Jones. Goruchwyliwr y llwyfan oedd F. G. Fisher.
Cynhyrchydd 'It's Autumn Now' oedd Margaret Fisher a'r cast oedd Glasfryn Evans, Barbara Hughes, Gwen Price Evans, Bill Hughes, Kitty Owen, Maureen Roberts. Goruchwyliwr y Llwyfan oedd F. G. Fisher.
A chan fod Theatr Fach, Llangefni yn dathlu ei phen-blwydd eleni yn hanner cant oed, da o beth yw rhoi trem yn ôl ar flynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif er mwyn cael cipolwg ar sefydlu theatr sydd mor annwyl i'w chefnogwyr ac sydd yn parhau i fod yn gyfrwng cyfathrebu a diddanu byw iawn.
J R Williams