Mae Emrys wedi bod yn anfon adroddiadau cyflawn a diddorol am y gwasanaethau a chyfarfodydd Cymdeithas Lenyddol Lon y Felin i'r Glorian ers blynyddoedd ac yn naw deg dau mlwydd oed mae wedi ymddeol o'r swydd.
Roedd Emrys, a'i briod Gwyneth Williams, yn mwynhau mynychu gwasanaethau a chyfarfody¬dd y Gymdeithas tra roedd iechyd Mrs Williams yn caniatáu. Yn ddiweddar mae aelodau o'r Eglwys wedi bod yn cyflwyno manylion y cyfarfodydd i Emrys er mwyn iddo rhoi y cyn¬nwys yn Y Glorian.
Mae Mr Williams yn parhau i ddangos diddordeb mawr yn holl weithgareddau'r capel a dymunwn yn dda iddo ef a'i briod.
I Emrys (Gohebydd)
Gŵr dawnus â gair doniol - ei eiriau
I'r Glorian fu'n fuddiol,
Cymwynaswr, gŵr a'i gôl
I noddi'n wir lenyddol.
Gwr dawnus â gair doniol - ei eiriau
I'r Glorian fu'n fuddiol,
Cymwynaswr, g^wr a'i gôl
Yn hybu yn atebol. Machraeth
|