Byddai'n bosibl mynd ar y trên o Amlwch, Llanerchymedd, Llangefni, Llangwyllog a Phentre'r Berw ac yna yn y Gaerwen newid trên i fynd ar y brif lein oedd yn dod o Gaergybi i fynd i Lerpwl.
Roedd y daith yn costio 5 swllt
Y teithwyr yn y llun (o'r chwith i'r dde) yn y blaen yw Mr Jim Morris oedd yn cael ei adnabod fel Mr Jim Morris Chips - cadwai siop sgoldion yn Stryd y Bont gyda'i wraig.
Yn ddiweddarach aeth Mr Morris yn wneuthurwr clogiau ac esgidiau.
Wrth ei ymyl ef mae Mr Davies 'Tinman' a'r dyn mawr tal yn y cefn yw Dick Harry 'Fawr' Jones. Nid yw enwau'r ddau deithiwr arall ar gael.
Cychwynai'r trên am naw y bore a chyrraedd yn ôl am 10 yr hwyr.
|