Fel rhan o'i ymgyrch i gadw swyddfeydd post Môn ar agor, bu Dylan Rees, Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru, ar daith gerdded ar hyd a lled yr ynys yn ymweld a'r saith swyddfa bost sydd dan fygythiad gan gychwyn o Swyddfa Bost Talwrn (yn y llun) a gorffen ei daith 75 milltir yn Sioe Môn. Dywedodd Dylan; "Roeddwn yn falch iawn o gael cefnogaeth i'r ymgyrch i gadw ein swyddfeydd post ar agor ym mhob un o'r cymunedau y bûm ynddynt a hoffwn ddiolch am yr holl
anogaeth a gefais ar y daith. Mewn nifer o'r cymunedau hyn, mae'r swyddfa bost yn rhan o'r unig siop leol. Os bydd y post yn cau yna bydd y siop dan fygythiad hefyd a bydd calon y
gymuned yn diflannu. Mae'n bwysig felly fod barn pobl Môn yn cael ei glywed a bod ein swyddfeydd post yn aros ar agor."
|