Mae wedi cael ei ddewis yn aelod o dîm Cymru yn ymrysonfeydd cŵn defaid, camp y cyfeirir ati fel rhedeg ci.
Fe fu gan Vaughan ddiddordeb yn y gamp ers pan yn fachgen ifanc.
Dysgu cŵn i ddechrau, wedyn y gamp o redeg ci.
I gyrraedd ennill ei 'gap cenedlaethol' bu'n cystadlu am flynyddoedd mewn ymrysonfeydd lleol ym Môn ac wedyn dros y bont yn siroedd y gogledd.
Rhyw bythefnos yn ôl bu yn cystadlu am ei 'gap' i lawr yn Llanafan yn y de.
Mae Monwysyn arall yn aelod o'r tîm cenedlaethol sef Gwynfor Owen o Benygraigwen.
Felly bydd y naill yn gysur i'r llall wrth iddynt gystadlu ar Fedi lleg yn Penrith dros Gymru yn erbyn timau cenedlaethol yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Mae
pymtheg aelod i bob tîm cenedlaethol.
Mae Vaughan yn rhedeg dau gi sef Nan a Blac ond Nan wnaeth orau yn y treialon a hi fydd yn rhedeg yn Penrith.
Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Vaughan a
Gwynfor a hefyd i'r tîm cenedlaethol yn yr ymryson yn Penrith.
Bu Vaughan yn bostman yn Llangefni a Benllech ond mae bellach wedi cael swydd Warden cŵn o dan y Cyngor Sir - pwy gaech chi well i swydd fel honno!!
|