Gwelsom ambell i fanana, pinafal a choconut yn cerdded o gwmpas heb sôn am flodau, coesau blewog a choctels! Oherwydd rheolau symud stoc roedd hi'n anodd cynnal y cystadlaethau arferol ond diolch i Mr Wil Evans, roedd hi'n bosib defnyddio defaid oedd ar y cae yn barod ar gyfer y cneifio a darparu oen ar gyfer sioe. "Peth braf eleni yw gweld clwb newydd wedi cychwyn ym Mryngwran", meddai Dyfnallt Huws, Cadeirydd Hyfforddiant y Mudiad. "Mae'r clwb dan arweiniad Mr Martin Williams wedi cael llwyddiant yn y Rali ac yn edrych ymlaen at fynd i Lanelwedd." Ar derfyn diwrnod o gystadlu brwd roedd y canlyniadau fel hyn: 1af. Bodedern; 2ail. Penmynydd; 3ydd. Llangefni a Rhosybol; 5ed. Llangoed; 6ed. Dwyran; 7fed. Bryngwran. Roedd Arwel Hughes, Cadeirydd y Mudiad wrth ei fodd "Mae diwrnod y Rali yn uchafbwynt cystadlu'r flwyddyn gyda phob Clwb eisiau buddugoliaeth ac mae eleni'n arbennig iawn gan fod Bodedern, Nghlwb i, wedi curo eto!" Yn ôl Llywydd y dydd, Mr Iestyn Pritchard, roedd hi'n bwysig cymryd pob cyfle a mwynhau gweithgareddau di-ri y Mudiad.
|