91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Siop gig yn Llangefni tua 1920 yn Llifon House Atgofion am Langefni
Rhagfyr 2008
Thomas Williams sy'n hel atgofion o siopau yn y dyddiau a fu cyn y Nadolig yn Llangefni
Mi es i lawr yr A5 i Langefni rhyw ddau fis yn ôl bellach a dwad i lawr heibio Burgess wedi bod yn Lidl i gael lIefrith ac un neu ddau o bethau eraill a dwad i lawr ac edrych ymlaen a gweld y stryd wrth y sgwar yn lIawn o bobl a meddwl am funud fy mod yn gweld pethau neu fod nhw wedi troi'r cloc yn ôl, ond fel roeddwn yn dod i lawr cofiais fod yr RAF yn dod i Langefni.

Meddyliais mor braf oedd hi yn Llangefni ym mis Rhagfyr o flaen y Dolig ers talwm a rhyw deimlad fod rhywbeth sbesial am ddigwydd, siopau yn llawn o bethau Dolig - Llifon House yn gwneud pob math o deisennau erbyn y Dolig a mins peis ardderchog, ac yn y pictiwrs mi fyddai na ffilmiau sbesial i'r plant yn y pnawn a rhywbeth arall o 8 tan 10 a'r lle yn llawn a Thomas John Jones yn cadw trefn.

Wedyn siop pethau da Mr a Mrs Jones ac roedd yn rhaid cael pethau da i fynd i'r pictiwrs yn enwedig os oeddech yn mynd a'ch cariad roedd angen bocs siocled.

Wedyn siop Mr a Mrs Lewis yn gwerthu petha plant - dillad cynnes erbyn y gaeaf a wedyn Betsy Jones. Lawr wedyn a siop Richie Stirryp. Wn i ddim o hanes Mr Stirrup ond ei fod yn cadw dillad dynion 'High Class' ar gyfar pobl fawr yr oes honno.

Wedyn roedd Mona Cafe sydd wedi dod yn ôk eto a'r cloc wedi ei droi'n ôl. Mae gennyf gof o tu mewn i'r caffi, lle tebyg i stabal ceffylau, lle hen ffasiwn iawn.

Mi awn i fyny'r stryd i siop Gray drws nesaf. Mae gen i gof o siop Iyfrau Caxton House - fuo hi ddim yno'n hir iawn - mi ddaeth Bradley hefo dillad 'off the peg' ac Amos Williams yn Mangor. Wedyn Market a Ship Hotel. Mr a Mrs King oedd yn cadw'r Ship; R. R. Jones, Fferyllydd a Mr Llew Jones o Amlwch ac wedyn daeth Idris Wyn Jones yn rheolwr.

Dwi'n cofio fod yna gystadleuaeth addurno ffenestr siop a byddai siop R. R. yn cystadlu ac wedi gneud y ddwy ffenestr yn llawn o bob math o bethau Dolig a byddai'r merched yn ddelach nag oeddan nhw wedi cael y powdwr a'r paent o siop R. R.

Wedyn siop Price - y fan honno oedd y plant yn hoffi - pob math o deganau, sana Dolig mawr a bach, ceffyl pren a doliau o bob maint.

Yna siop Hughes Pork yn gwerthu dim ond cig moch ac wedi iddo ef ymddeol daeth Arthur Willie Owen i gadw'r siop a mi fydden nhw wedi addurno'r ffenestr hefo penna moch ac yn y blaen.

Yna siop Osbon Bach yn gwerthu paent a phapur papuro hefo'i dad a'i fam ac wedyn Hugh Woodwork, gyda'r enw yna am ei fod yn dysgu gwaith coed i hogia. Mi fyddai o yn tynnu lluniau a mae yna luniau i'w gweld heddiw wedi eu tynnu ganddo fo.

Wedyn siop Humphreys Fferyllydd. Dwi'n cofio y byddai yna anferth o boteI Cod Liver Oil yn y ffenestr a lIun dyn yn cario pysgodyn mawr ar ei gefn. .

Foundry Vaults wedyn, Siop Evans Ironmonger a'r siop nesaf oedd siop gornel oedd yn gwerthu pob math o deisennau wedi eu gwneud i gyd yn y siop. Yna Banc Lloyds, wedyn Pearl, adeilad hardd wedi bod yn Fanc, wedyn tri o dai ac wedyn siop Hughes Bach, tad Idris Hughes, yn gwerthu papurau newydd a thobaco Amlwch. Byddai dynion yn cnoi'r tobaco ac ambell ddynes hefyd.

Y siop nesaf oedd Glasgow House yn gwerthu dillad merched ac wedyn siop fach, sef Griffiths Fferyllydd, ar gyfer anifeiliaid, wedyn dau o dai ac wedyn Griffith Fruit Stores yn gwerthu ffrwythau. Pan ddaru o ymddeol aeth i fyw i Lodge Tregarnedd a'r siop olaf oedd siop Hughes Station yn gwerthu nwyddau ac arwydd mawr ar dalcen y siop yn dweud ei fod yn gwerthu te.

Ochr arall y stryd

Son ydwyf am Langefni o flaen y Nadolig ac rwan awn ar draws y Iôn i ochr arall y stryd. Siop SPQR, Tegid House, Siop Parry House i gyd yn gwerthu pethau da, te a siwgwr ac yn y blaen. Plant ysgol yn gwario ceiniog neu ddwy yno. Wedyn siop Briggs a Caerwyn Roberts yn byw yn y tŷ. Yna nain John Plisman hefo ffenestr fawr a dau ochr bacwn ynddi, wedyn tad John Plisman hefo siop nwyddau ac wedyn Avondale, siop a chaffi a theisennau o bob math yn y ffenestr.

Siop clociau a watsus oedd siop David Jones ac wedyn roedd siop Dicks yn gwerthu sgidiau dynion a merched a'r sgidiau hoelion mawr, yna siop Thomas John Jones, cigydd. Cofio ei fod wedi prynu Champion yn sêl Bob Parry ac wedi hongian ochr yr anifail ar rêl yn rhedeg o'r siop i ffrynt y siop a thua deg ochr o gig eidion a chardiau 'Champion' ar y gorau - wn i ddim be fasai lechyd a Diogelwch yn ei ddweud heddiw.

Gwerthu siocled oedd siop Owen Ellis ac yn y cefn lle torri gwallt ac eillio dynion pob dydd.

Siop Guest yn gwerthu llyfrau Cymraeg a Saesneg a phob math o bapurau newydd yddiol ac ymlaen wedyn i E Jones a Star ac yna siop Golden Eagle oedd yn gwerthu dillad dynion a merched a'r ffenestri mawr yno wedi eu haddurno gyda phob math o ddillad crad yn eich hudo chi i mewn i brynu.

Yna dyma ni wrth y Bull Hotel a ninnau'r plant wrth ein bodd yn edrych trwy'r ffenestr i'r stafell fwyta ar gornel Lôn Glanhwfa run fath ag y mae heddiw ond yr adeg honno roedd gweld y goleuadau a'r addurniadau ar y byrddau yn rhyfeddod i blant.

Wel, dyma gyrraedd Neuadd y Dref o'r diwedd ac yno byddai pethau yn cael eu cynnal rownd y flwyddyn ond cyn y Nadolig byddai yno stondinau allan a ffermwyr yn dod a gwyddau wedi eu trin yn barod am y popdy a chywion ieir ac ati.

Roedd yn werth ei weld y peth cyntaf yn y bore a'r stondin yn lIawn a gwraig y fferm yn sefyll yno tu ôk i'r cownter fel tasai hi ar goll mewn coedwig fawr.

0 flaen y Nadolig byddai 'Rummage Sale' neu ddwy a lot o bethau yn cael eu cynnal a gyda'r nos byddai yna ddramâu gan gwmnïau o Langefni, Llannerch-y-medd ac yn y blaen ac wedyn byddai yna ddawnsio lle byddai lIofft Neuadd y Dref.

Wedyn i lawr yn y Farchnad roedd Miss Parry hefo cornel yn gwerthu pob math o deganau, cigydd Lamia, Bodedern gyda sioe dda iawn o gig, dyn injia roc Llannerch-y-medd, stondin yn gwerthu llyfrau ail law, stondin dillad dynion a merched, trowsusau melfared i ddynion a barclodiau bras i'r merched. Atgofion Thomas Williams, Gerlyn, Rhostrehwfa


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý