91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Meic Stevens Gwyl Cefni 2003
17 Medi 2003
Llwyddiant a gafwyd eto yng Ngwyl Cefni 2003. Daeth y torfeydd i fwynhau'r nos Wener a dydd Sadwrn llawn amrywiaeth o ganu roc a gwerin.
Uchafbwyntiau nos Wener oedd gweld Meinir Gwilym gyda band yn ei chefnogi yn dod adref i berfformio ar ôl blwyddyn brysur iawn. Mae pawb yn edrych ymlaen at ei CD newydd cyn y Nadolig.

Yna i ddiweddu'r noson, perfformiad arbennig gan Meic Stevens gyda Heather Jones yn canu llais cefndir. Roedd safon arbennig o uchel i waith offerynnol grwp Meic, yn arbennig felly Billy Thompson a swynodd pawb gyda'i feistriolaeth o'r feiolin.

Cafodd plant a ieuenctid hwyl yng ngweithgareddau Theatr Ieuenctid Môn fore a phrynhawn Sadwrn a bu'r peintwyr wynebau yn brysur iawn yn Neuadd y Dref.


Roedd awyrgylch arbennig o braf ym Mharti Pandy gyda'r crefftwyr coed yn brysur a theithiau tywys i Nant y Pandy yn rhoi pleser.

Ar brif lwyfan yr Wyl cafwyd perfformiadau da brynhawn a nos Sadwrn.

Gwnaeth Baldande o Gaerfyrddin argraff gyda'u caneuon gwerin/roc bywiog ddiwedd y prynhawn, cyn i'r Wyl dynnu at ei therfyn trwy gyfres o berfformiadau cryf gan Paccino, Bysedd Melys, Estella, Crasdant, Mim Twm Llai a Celt.

Roedd y dyrfa o flaen y llwyfan yn bownsio i ganeuon cyhyrog Mim Twm Llai a Celt.

Bydd gwaith paratoi at Wyl 2003 yn cychwyn yn fuan. Mae Gwyl Cefni yma i aros ac yn rhan bwysig o galendr digwyddiadau Môn.

Dylan Morgan


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý