Calonogol hefyd oedd gweld cymaint o gystadleuwyr brwdfrydig mewn nifer o gystadlaethau llwyfan yn ystod y dydd a gyda'r nos. Bu disgyblion Ysgol y Talwrn yn brysur yn cystadlu ar y llwyfan drwy'r dydd a gwelid eu Gwaith Celf a'u Gwaith Ysgrifennu wedi'u harddangos ar furiau'r Neuadd. Beirniaid cystadlaethau'r llwyfan oedd Eifion Harding (Llefaru), Huw E. Jones, Porthaethwy (Cerdd i'r rhai dan 12), Laura Hughes Jones (Cerdd yn y cyfarfod gyda'r nos) a Guto Puw (Cerdd Dant, Canu Gwerin gyda'r nos). Beirniaid y cystadlaethau Celf, Technoleg a Ffotograffiaeth oedd Islwyn Williams (Ty'n Llidiart gynt) a Diane Williams, Trefdraeth, a Rhinedd Hughes, Bodffordd oedd yn beirniadu'r coginio.
Enillwyd Tlws yr Ifanc eleni, sef cloc pren hardd siâp Ynys Môn a wnaed gan Mr Dutton, Ty'n Mynydd, Cefniwrch ac a roddwyd gan Richard a Bet Evans, Cae Cam gan un o enethod y pentref sef Lois, Caechwarel a chafodd ganmoliaeth uchel gan Feirniad Llenyddiaeth yr Ieuenctid, Mrs Valmai Rees, Moelfre.
Yr ail oedd Branwen Chilton, Llangernyw, enillydd y llynedd, ac yn drydydd Eirian Fflur Davies, Bryngwran. Haf Wyn oedd yn gofalu am y seremoni a chanwyd Cân y Cadeirio gan Buddug William.
Guto Wyn, Wern, sydd erbyn hyn yn athro mathemateg yn Ysgol Dyffryn Ogwen oedd llywydd y p'nawn a soniodd am yr hyn a elwodd o'i brofiad gwerthfawr yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod pan oedd yn yr Ysgol Gynradd.
Diweddglo braf i gyfarfod y p'nawn oedd gweld côr, dau grŵp Dawnsio Creadigol, grŵp Dawnsio Disgo a Pharti Dawnsio gwerin o Ysgol y Talwrn. Cyflwynwyd tair gwobr arbennig i ddisgyblion dan 12 oed yn y gwahanol adrannau ac enillodd Gareth Wyn Hughes, Ysgol y Talwrn am Waith Ysgrifennu Creadigol, Mared Emlyn, Ffestiniog am ei pherfformiadau ar y llwyfan a Pippa Van Halderen enillodd yn yr Adran Celf a Chynllunio.
Cafwyd Seremoni Ddwbl gyda'r nos, sef Seremoni Anrhydeddu enillwyr y prif gystadlaethau Rhyddiaith a Barddoniaeth a hynny dan ofal Mrs Helen Evans gyda chymorth pobl ifanc o'r pentref a Haf Wyn yn canu Cân y Cadeirio. Yr enillwyr oedd Ifan Roberts, Pentyrch, (yn enedigol o Landdona) a enillodd y Plât gyda phatrwm Celtaidd, a roddwyd er cof am y diweddar Tony Price, am ei Stori Fer 'Colli Tir' ac Arthur Thomas, Porthmadog enillodd y gadair fechan hardd a luniwyd eto eleni gan Mr Gareth Thomas, Ysgol Gyfun Llangefni, am ei gerdd 'Pontydd'. Canmolwyd y ddau a hefyd safon uchel y ddwy gystadleuaeth gan y beirniad y Prifardd Ddr. Gerwyn Williams, Bangor.
O eleni ymlaen rhoddir y gadair er cof am y diweddar William Hughes, cyn ysgrifennydd yr Eisteddfod. Un o gefnogwyr selocaf yr Eisteddfod, ac a fu'n Isysgrifennydd gweithgar am flynyddoedd oedd Llywydd Cyfarfod yr Hwyr sef Mrs Eira Pritchard, Llangefni (Eira Jones, Trawscoed gynt).
Y cyfeilyddion oedd Mrs E. Olwen Jones a Nia Efans, y ddwy o 'r Talwrn (bore a phrynhawn) a Mrs Olwen Jones, Llangefni yn yr hwyr. Rydan ni'n ffodus dros ben yn y Talwrn o gael mwynhau clywed caneuon newydd a gyfansoddwyd yn arbennig gan y gyfansoddwraig Mrs E. Olwen Jones ar gyfer yr Eisteddfod. Gofalodd Mrs Gwawr Oliver am osod gwaith creadigol y cystadleuwyr o amgylch y neuadd a Mrs Myfanwy Williams drefnodd fod lluniaeth blasus a baratowyd gan aelodau Mercher y Wawr y pentre a rhieni Ysgol y Talwrn ar gael trwy gydol y dydd a gyda'r nos.
Dymuna Pwyllgor yr Eisteddfod ddiolch i bawb am eu cymorth a'u cefnogaeth ac yn arbennig i athrawon a chymorthyddion Ysgol y Talwrn am eu gwaith di-flino'n paratoi'r plant ar gyfer yr Eisteddfod. Roedd hi'n braf gweld cymaint o gefnogaeth gan y rhieni, perthnasau a chyfeillion a'r awyrgylch hapus yn goron ar y cyfan.
Dyma'r llinellau ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth y Limrig:
Daeth newid ddau ben Lôn Felin
Mae twll lle bu cwt y Criw Cyfrin
Ac ar ôl yr Etholiad
Lawr yn y Siop Siarad
Mae sôn am efeillio â'r Kremlin.
1af - Ann Wyn Owen, Rhoscolyn.
Gwnânt dwll ym mhocedi y werin.
2il - Nan Pritchard, Penysarn.
Mae sôn am wneud cerflun o Stalin
3ydd - Ann Wyn Owen, Rhoscolyn.