Cwblhaodd Ieuan Wyn Jones ugain mlynedd yn cynrychioli etholaeth Môn - 12 mlynedd fel Aelod Seneddol (1987-1999) ac 8 mlynedd fel Aelod o'r Cynulliad.
Bu ei ragflaenwyr, Cledwyn Hughes, Llafur a Megan Lloyd George, Rhyddfrydwr hefyd yn cynrychioli'r Ynys am dros ugain mlynedd.
Yng Ngwesty'r Fali y cynhaliwyd y cinio dathlu ac ymysg lliaws o gefnogwyr yr oedd Dafydd Wigley a Dafydd Elis- Thomas, ei ddau gydymaith yn y Senedd yn Llundain a Dafydd Iwan, Llywydd Plaid Cymru.
Talwyd teyrngedau lawer i Ieuan; daeth parti o blant yn eu gwisg Gymreig i ganu iddo; gwelwyd fideo ddiddorol o achlysuron yn ei hanes dros y blynyddoedd a darllenwyd englynion gwych o waith Machraeth iddo.
Dymunwn yn dda i Ieuan a'r teulu.
|