Nid yw yn hawdd mynd yn ôl
Ond eto, onid yw yn hudol,
Mae i mi rhyw ffansi ffôl
Yn hoff fannau'r gorffennol.Na, nid y fi ydi'r awdur, dwi ddim yn ddigon clyfar i sgwennu peth fel yna, ond clywais hyn ar Dalwrn y Beirdd rai blynyddoedd yn ôl ac mae wedi glynnu yn fy nghof. Nid wyf yn gwybod ydio yn beth da iawn edrych yn ôl na mynd yn ô1 chwaith, fel y profais yn ddiweddar achos does dim yn aros yr un fath.
I Joan a Tecwyn (hogan o'r Talwrn) y mae'r diolch am symbyliad y tro yma. Pan gefais lythyr ganddynt yn dweud iddynt fynd i gerdded yr hên lwybrau yn ddiweddar a'r atgofion yn llifo. Cododd hyn awydd arnaf i drio gwneud yr un peth, ond gan nad wyf yn dreifio rwan, rhaid oedd dibynnu ar rywun i fynd â fi, a bum yn lwcus pan ddaeth Megan, fy nghyfnither o Rhydwyn yma ddiwrnod (Megan, Ty Ron gynt).
Gan nad oedd gen i awydd cwcio aethom ein dwy i'r Ganolfan Arddio ym Mhentre Berw am ginio, rhyw 'snac' bach felly. (Mae yno fwyd bendigedig a genod clên!) Roeddwn i angen compost a pheledi difa malwod, a lladdwyd dau dderyn hefo'r un garreg felly. Wedi gwledda a gwario rhyw ychydig, dyma Megan yn awgrymu ein bod yn mynd am dro drwy'r Talwrn. Cofiwch, mi fuo ni ddigon hir yn cyrraedd y pentra gan fod plwyf Llanffinan yn atyniadol a bu Ilawer o 'wyt ti'n cofio?'
Hel atgofion
Gweld Glanrhyd ar ei newydd wedd a chofio'r teulu mawr fu'n byw yno a meddwl cymaint o ffordd oedd ganddynt i'r ysgol, llond lôn ohonynt. Gyda llaw, byddaf yn cael sgwrs hefo Enid reit aml a chysylltaf â Gwyneth yng Ngwalchmai rwan ac yn y man.
Edrych ar yr Allt, sydd bron yn adfail a chofio'r lle yn ei ogoniant a gwas a morwyn yno. (Lle da i fynd i glapio!) Ymlaen a ni ac aros ger pen lôn y Fflat, lôn fudr i mi ac mae hi ddigon budr o hyd, ran hynny. Pasio pen lôn capel a dwad at yr efail a bron na chlywn i dinc yr engan. Syllu yn sobor ar Llwybr Main sydd wedi cau hefo drain a mieri, (dim digon o le i lygoden fynd ar ei hyd!) Cofio rhedeg ar ei hyd i chwarae tic yn Rhosffynnon a hel berw dwr o'r ffos fechan ar ochr y llwybr ac wrth gwrs, gwneud cwpan hefo'n llaw i gael diod o'r ffynnon.
Gweld y Parc yn ddilewyrch iawn a chofio gardd Bryn Brochon, efo'r coed cwsberis, yr afalau a'r gerllyg a'r holl lysiau. Aros ger y Lleiniau a mynd allan o'r car am sbec bach. Gweld y pwmp o flaen ffenast y cefn ac edrych i mewn i'r ystafell fyw a gweld cwpwrdd gwydr yno. Cofio mai o'r cwpwrdd hwnnw y cawn fenthyg llyfrau fel The Big Book for Girls, What Katy did at school, Rhys Lewis, Gwen Tomos ac Enoc Huws. Cofio cael benthyg Taith y Pererin a meddwl ei fod yn llyfr sych, ond rwyf wedi ei ddarllen wedyn a chael blas arno (ifanc a gwirion ynte.)
Edrych trwy ffenast y gegin fach a dychmygu gweld Nansi yn ei phrysurdeb yn coginio, neu yn eistedd yn y gadair freichiau o flaen tanllwyth o dân. Gadael yn bur sydyn hefo deigryn yn fy llygaid wrth gofio Siop y Lleiniau yn ei bri a Dic, yr hen geffyl yn pori yn y cae.
Cyrraedd yr Eglwys a mynd tros y gamfa (na, nid drwy'r giat!) i'r cowt. Mynd at y gamfa arall yn y pen draw gan ddisgwyl gweld y llwybr oedd yn arwain i'r Comins ond aeth hwnnw i blith yr hyn a fu, fel Llwybr Main. Gweld y Bonc Fawr a meddwl am Chwalar Tylwyth Teg, ond gwneud dim mwy na meddwl, er y buaswn wedi lecio mynd yno. ('Those were the days!') Chwilio am Robin, pen gyrnu, ond dim lwc, felly tros y gamfa eto ac yn ôl i'r car.
Smôc bach slei!
Yna Megan yn sôn am y giat fochyn a'r llwybr yn mynd ar draws cae y Rhyd at Tyn Ffordd. Tebyg fod y bombren i groesi'r afon yno o hyd, ond ddaru ni ddim mentro mynd i weld. Dwi wedi galw'r sgwâr yn anfarwol yn y penillion "Crwydro'r Talwrn", ond, i mi dydi o ddim hanner mor anfarwol rwan. Mae'r pedair croeslon yno wrth gwrs ond mae'r hen flwch teliffon coch wedi diflannu. Doedd Siop y Rhyd gynt ddim hanner mor atyniadol ag oedd pan fyddai'r ffenast yn llawn o bob math o bethau da, fel licis bôl, eis crîm a baco cogio a Sherbert melyn neis.
Cofio'r peiriant sigarennau ar y pared ger y ffenast a cofio rhai ohonom yn rhoi dwy geiniog o'n harian prin ynodd i gael paced pump o Wdbin a mynd at giât Gwenllian am smôc bach slei! (Na, smociais i byth wedyn!)
Ydi, mae'r lôn o'r sgwâr at Tyn Lôn wedi newid llawer, ond mae'r hen enwau ar y tai yn aros o hyd. Mae'r pentra wedi tyfu a llawer o bobl ddiarth wedi symud yno, ond deallaf fod y gymdogaeth dda yn aros o hyd. Dyna sy'n bwysig ynte, pobol ac nid pethau.
Mi gafodd Megan a finnau bnawn difyr yn hel atgofion. Tebyg y bydd llawer ohonoch, wrth ddarllen hwn, yn cofio eich milltir sgwâr chwithau, a hwyrach yn mwynhau edrych yn ôl. Na, nid ywn hawdd mynd yn ôl, ond diolch i rai fel Joan a Tecwyn a Megan am roi prociad i fy nghof a chodi'r awydd am grwydro hen lwybrau bro fy mebyd.
Mary Evans