Cafodd Eirian ei chyflwyno i'r Urdd pan oedd hi'n 4 oed yn Ysgol Gynradd Llandrygarn. Ei phrofiad cyntaf o'r Urdd oedd cystadlu ar yr unawd dan wyth pan oedd yn 4 oed a chael llwyfan yn y cylch ar ôl canu Y Gwanwyn'.Bu yn cystadlu mewn nifer helaeth o gystadlaethau tan iddi gyrraedd 25 oed. Mae hi wedi ennill amryw o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, enillodd yr ail wobr ym Mro'r Preseli yn 1995 am Unawd i Ferched rhwng 15-19 oed a chafodd gyntaf am stori fer dan 25 yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn 1998. Eleni caiff y cyfle i gystadlu yng nghystadlaethau i rai hyd at 30 oed drwy Aelwyd yr Ynys - aelwyd newydd sbon sydd wedi ei sefydlu ar Ynys Môn yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod hon. Mae'r Aelwyd yn bwriadu cystadlu mewn amryw o gystadlaethau i Aelwydydd ac wedi cychwyn ymarfer bob nos Sul am 7.30 yng Nghapel Lôn y Felin, Llangefni. Mae croeso i unrhyw un dros 14 oed ymuno. Mae Eirian yn mwynhau gwneud gwaith gwirfoddol i'r Urdd ac wedi gwneud hynny ers rhyw ddeg mlynedd; dechreuodd drwy stiwardio yn rhagbrofion cerdd pan oedd oddeutu 15 oed.Y gweithgaredd mawr nesaf fydd Noson Gŵyl Ddewi yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi, nos Sadwrn, Chwefror 28. Bydd cyfle i wrando ar gyflwyniad ar y delyn ar gychwyn y noson wedyn bydd bwffe o gynnyrch lleol ac adloniant gan yr enwog Elin Fflur ac un grŵp arall. Bydd hefyd cyfle i fwynhau dawnsio gwerin yn ystod y noson. Yn ystod yr Eisteddfod ei hun, bydd aelodau Pwyllgor Ieuenctid Mônsdar yn brysur yn helpu gyda chystadlaethau roc a chanu ysgafn, maent hefyd yn bwriadu trefnu gig mawr ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod gan obeithio y daw llawer o bobl ifanc ac Aelwydydd yno i gefnogi. Am fwy o wybodaeth am y Pwyllgor Ieuenctid a'r gweithgareddau maent yn ei drefnu ffoniwch Swyddfa'r Urdd ar 01248 363100 Rydym yn dymuno'n dda i Eirion a'i phwyllgor gyda phob gweithgaredd yn ystod yr Eisteddfod ac yn gobeithio y bydd y gwaith caled maent wedi ei wneud yn y misoedd diwethaf yn dwyn ffrwyth ac y bydd yr wythnos yn llwyddiant mawr.
|