Dyfarnwyd iddynt y wobr gyntaf gan y beirniad Arwel Jones am berfformiad caboledig o ddrama Wil Sam - 'Pa John.' Yn ei sylwadau canmoliaethus dros ben, nododd y beirniad naturioldeb y criw a'u perfformiad. Dywedodd y byddai ambell olygfa o'r ddrama yn aros yn ei gof am amser hir iawn ac, yn sicr, gallai'r gynulleidfa ddweud yr un peth yn ôl y gymeradwyaeth a gafodd ambell olygfa e.e. golygfeydd cam John a Miss Violet.
Yr oedd y perfformiad, ymysg nifer o berfformiadau cofiadwy iawn dros ddwy noson yn benllanw cyfnod hir o ymarfer ac yn rhoi cychwyn da i Eisteddfod Môn 2006.
Digwyddiadau digon diniwed sydd yn y ddrama, lle mae tad a mab o'r un enw yn chwilio am a chael gwraig a bron nad oedd y diweddglo yn amlwg i bawb ar ôl ychydig funudau. Camp y cyfarwyddwr a'r cwmni felly, oedd cynnal diddordeb y gynulleidfa am bron i dri chwarter awr. Gwnaethant hynny yn ddidrafferth gydag ambell linell a golygfa gofiadwy dros ben.
Llongyfarchiadau mawr i bawb fu'n ymwneud â pherfformiadau'r ddwy noson. Diolch i Bwyllgor Drama'r Eisteddfod am y cyfle.
Pam yr enw? Meddyliwch am y cast:
T - Tony; R - Richard; A - Audrey; E - Eirian; D - Dafydd
Syniad gwreiddiol arall gan Owen Huw.
|