Roedd y staff a'r plant yn edrych ymlaen yn eiddgar am ei hymweliad ac fe fwynhawyd ei hanesion am ei gwlad, ei theulu, ei hysgol a'i diwylliant gan bawb, o'r ieuengaf i'r hynaf. Roedd holi treiddgar y plant yn dysteb iw hawydd i ganfod gwybodaeth am y wlad ai phobl. Tra yn yr ysgol bu Mrs Mahloane yn ymweld â phob dosbarth yn ei dro, yn treulio amser gydar plant a'u hathrawon. Cafodd gyfle i astudio ein dulliau dysgu, trefniadaeth y cwricwlwm yn ogystal â materion rheolaethol. Trefnwyd iddi ymweld â thair ysgol arall yn y Sir yn ogystal ag Ysgol Gyfun Llangefni a'r Brifysgol ym Mangor. Cafodd groeso cynnes ym mhob man a thystiodd pawb i'w hanwyldeb. Bu hefyd, wrth gwrs, yn crwydro ychydig ar y fro. Ymwelodd â Llanddwyn, Penmon, Melin Llynnon, Oriel Môn, Eglwys Cyngar Sant, Capel Cildwrn a hefyd Castell Caernarfon ac ardal y mynyddoedd. Ar ei hymweliad â thref Llangefni galwodd yn siop 'Look Around' i gyfarfod John Hughes, y perchennog, er mwyn diolch iddo am y bêl droed a anfonodd i blant Maliele trwy law Mr Pritchard, y prifathro, yn ystod yr hydref. Ble bynnag y bu Mrs Mahloane roedd yn pwysleisio pwysigrwydd meithrin cyfeillgarwch a dealltwriaeth rhwng pobl Lesotho a Chymru. Roedd ei neges yn arbennig o berthnasol o sylweddoli mai yn nhref Llangefni, yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1983, y bathwyd y syniad o greu cyswllt rhwng y ddwy wlad. Braf gweld dyheadau y criw gwreiddiol hwnnw yn cael eu gwireddu yn ystod ymweliad Mrs Mahloane âr dref.
|