Mi gyrhaeddo' ni Borthmadog cyn i ni fedru gweld yn iawn lle roedda' ni trwy ffenestr y car! Beth bynnag, bum awr yn ddiweddarach, trwy rhyw wyrth, mi ffeindio' ni'r lle.
Diben mynd lawr ddiwrnod yn gynharach oedd er mwyn cael ymarfer amseru. A'r prynhawn hwnnw, a finna'n dechrau cael cathod bach gan mai ond deuddeg munud oedd gen' i i berfformio tri darn, a'r ddynas efo'r stop-wats yn d'eud wrtha' i 'mod i wedi parhau am un munud ar ddeg a phedwar deg eiliad yn yr ymarfer - a hynny heb newid gwisg, dyma fo'n dechra' gwawrio arna' i yr hyn oedd o fy mlaen drannoeth! Felly'r peth callaf i'w wneud y noson honno oedd trio cael gwely go lew o gynnar.
Ond mi a'th hynny trwy'r ffenestr gan fod y ffôn yn canu'n ddi-baid efo negeseuon testun yn dymuno pob lwc ar gyfer y 'diwrnod mawr'! Felly 'toedd dim amdani ond diffodd y ffôn tan y bore.
Chychwynnodd fore Sadwrn ddim yn wych. Fel na thasa' gennym ni'm digon i feddwl amdano fo, fel pacio, gwneud yn siŵr fod ein props a'n dillad perfformio ni i gyd gennym ni, piciad i stryd Caerfyrddin i 'nôl manion ar gyfer gyda'r nos, mynd i'r Ivy Bush i ollwng ein cesys yn barod, bod ym Mhontyberem erbyn un ar ddeg, o ia a'r ffaith ein bod ni eisiau cymryd rhan yng nghystadleuaeth bwysicaf ein bywydau ymhen ychydig o oriau, be' welo' ni wrth gerdded at y car y tu allan i'r gwesty ond rhyw bapurau yn chwifio o dan y weipars a dyn bach hunanbwysig mewn côt felen yn cerdded i ffwrdd yn ddirmygus. Felly ma' gen' i ofn fod £30 o bres 'rhen Bryn wedi mynd i dalu am Barti 'Dolig i draffig wordyns Caerfyrddin!
Beth bynnag am hynny, ni oedd y cyntaf i gyrraedd Pontyberem cyn rhan helaeth o'r criw teledu hyd yn oed, a oedd i fod i'n ffilmio ni'n cyrraedd. Felly ar ôl rhyw hanner awr o ddili-dalian, mi gawsom ordors i fynd yn ôl i'r car - bag and baggage - er mwyn i'r dyn camera, a oedd wedi cyrraedd bellach, gael ein ffilmio ni'n 'cyrraedd' ar y diwrnod tyngedfennol!
Ar ôl cael colur (dyma un o uchatbwyntiau'r penwythnos - a ges i
fasgara am ddim hefyd!) fe roedd hi'n amser i mi gael fy ymarfer; mynd rhyw unwaith trwy'r darnau er mwyn i mi gael 'teimlad o'r llwyfan' fel mae nhw'n ei ddweud, ac yn bennaf er mwyn i'r gŵr clên ar ochr y llwyfan a oedd yn gyfrifol am fy stôl i wybod lle i'w rhoi hi. A chyn i ni droi roedd hi'n amser cinio, ac am unwaith 'toedd 'na'm camera teledu rhyngo' fi a 'mwyd! Ac ar ôl y wledd (chwarae teg, fe roedda' ni'n cael ein bwydo'n dda iawn ganddyn' nhw) roedd ymarferion y bedair gantores.
Dyma'r unig siawns y cawn i'w gweld nhw'n perfformio'n iawn, felly mi benderfynais eistedd i'w gwylio, hynny yw, hyd nes y sylwais ei bod hi'n hanner awr wedi pedwar, ac ei bod yn hen bryd i mi sowtio i gael ymarfer bach arall - ar fy mhen fy hun y tro hwn.
Erbyn hanner awr wedi pump 'toedd gen' i ddim ewinedd ar ôl. Fedra' i'm dweud mai ar y nerfau oedd y bai (er bod y rheini'n dechrau cambihafio bellach), ond, sut ddyweda' i? Rhyw deimlad annifyr o fod yn anfodlon, wrth ddisgwyl a disgwyl i fysedd y cloc daro saith. Dyma 'na floedd o rywle'n datgan ei bod hi'n amser swper, ond 'dw' i'n meddwl 'taswn i wedi sbïo ar fwyd, mi fasa'n ddigon amdana' i, felly mi es allan am awyr iach. 'Dw' i'n grediniol 'mod i wedi gwisgo haenau oddi ar balmentydd Pontyberem, oherwydd wnes i ddim byd am hanner awr gyfan ond cerdded yn ôl ac ymlaen hyd y stryd yn cnoi caead fy mhotel ddŵr a mynd trwy bob gair o'r perfformiad yn fy mhen. Wyddoch chi be? 'Dw' i'n mynd yn nerfus rŵan wrth feddwl am y peth!
Erbyn hyn roedd pobl yn dechrau cyrraedd, yn cynnwys y beirniaid, ac roeddwn i wedi dechrau mynd i deimlo'n swp sâl. Mi fuaswn i wedi gwneud rhywbeth i gael Catrin yno i ddweud wrtha' i am gallio! Ta waeth, y peth gora' i mi ei wneud oedd mynd i newid fy nillad, gan mai fi oedd yr ail ar y llwyfan.
Fe aeth yr amser rhwng saith ac ugain munud wedi yn drybeilig o ara' deg ond o'r diwedd dyma fy ngalwad i i fynd i ochr y llwyfan yn barod. Roedd yr awr fawr (neu'r deuddeg munud) wedi cyrraedd
o'r diwedd, ar ôl misoedd o ymarfer, a phoeni, heb anghofio'r hun' ydi hynny. 'Toedd yna ddim troi'n ôl rŵan, ac off a fi.
Wyddoch chi, fe aeth yr holl beth mor sydyn fel na 'tydw i'm yn cofio llawer amdano fo, heb law fod fy microffon i wedi disgyn ar lawr rhwng dau o'r darnau, a 'mod i'n sobr o boeth o dan y goleuadau - wel fe roedd gen' i hen drowsus i Elysteg fy nghyfyrderes amdanaf, top du Aelwyd yr Ynys, siaced cynhebrwng nain, hen sgert i Elen Roger Jones, a chardigan fawr mam dros y cwbl (on'd oeddwn i mewn cwmni da dudwch?!), felly 'toedd na'm rhyfedd 'mod i'n berwedig nag oedd?!
'Dwi'm yn meddwl 'mod i erioed wedi teimlo y ffasiwn ryddhad ag a ges i wrth gamu oddi ar y llwyfan. Y peth pwysicaf gen' i oedd 'mod i'n plesio'n hun, ac ro'n i mor falch o fedru dweud fy mod i wedi llwyddo i wneud hynny (sy'n fwy na alla' i ddweud am yr ymarfer!) 'Toedd dim i'w wneud nawr ond ymlacio, rhoi rwbath taclusach amdanaf, a gwylio gweddill y criw yn perfformio.
Rhaid i mi ddweud na wnaeth o fy nharo i tan adeg y canlyniad fod yr wyth ohono' ni mewn gwirionedd yn cystadlu yn erbyn ein gilydd.
Roedda' ni i gyd yn dymuno'n dda i'n gilydd ac yn canmol, a hynny o ddifrif.
O'r diwedd, dyma gael yr alwad i fynd ar y llwyfan ar gyfer y canlyniad, a thra roedda' ni'n sefyll yno'n un rhes, mi ges gyfle i weld lle roedd pawb yn eistedd yn y gynulleidfa: Catrin, Owen Huw Roberts, a Derwena'n un rhes yng nghanol y llawr, ac Iona Stephens, Eirian a Sian yr Urdd rhyw dafliad carreg oddi wrthyn' nhw.
'Toedd 'na'm posibl methu criw'r Aelwyd, gan gynnwys ambell i fodryb ac ewythr a Heledd ac Iwan yn eu mysg, yn y galeri yn un haid, ond fedrwn i ddim yn fy myw a gweld mam a dad yn lle'n byd. Ond mi nabodish wallt mam o'r diwedd a'i gweld hi'n rhoi winc arna' i a finna' rhoi gwên iddi hitha'.
Pan ddywedodd Rhiannon Lewis, y beirniad a oedd yn traddodi, ei bod hi rhwng dwy, roedd gen' i ddau enw yn fy mhen, a 'toedd Manon Wyn Williams yn sicr ddim yn un ohonyn' nhw. Ond pan glywish i'r gair 'actores', mi gododd fy nghlustia' i, a mi deimlish fraich Eirlys (y gantores werin) yn gafael amdana' fi, ac yna'r geiriau 'O Fôn', wel ...! Dyna'r teimlad rhyfedda' i mi erioed ei gael.
Wyddwn i'm be' i'w wneud na lle i sbïo na dim, a'r peth nesaf, dyma 'na gawod o freichiau'n dod amdana' fi, a dyna i chi deimlad braf gwybod fod y cystadleuwyr eraill yn falch drosta' i. A da eu bod nhw'n gafael amdana' i mewn gwirionedd, achos beryg mai colapsio fasa'n hanes i fel arall!
Mi edrychish i gyfeiriad y gynulleidfa a gweld y criw i gyd, y criw a oedd wedi dod yr holl ffordd i lawr i Bontyberem i 'nghefnogi i, ar eu traed ac yn gweiddi. Roedd pob llygad yn y lle arna' i, a 'toedd gen' i'm syniad beth i'w wneud!
Dyma fi a wêf i'r galeri, a phawb yn codi llaw yn ôl, a chodi bawd ar Catrin. Feiddiwn i ddim sbïo ar mam achos roedd gen' i ddigon o ddŵr yn fy llygaid yn barod.
A llaw ar fy nghalon, feddylish i erioed y bydda' hi'n dweud fy enw i. Ches i 'rioed gymaint o sioc yn fy myw, cymaint felly nes y ces i'r poen mwya' dychrynllyd yn fy 'stumog am ryw awran wedyn!
'Dwn im ai hapus oeddwn i ta be, er fy mod i wedi gwirioni, ond iesgob, am deimlad rhyfedd, ac anghofia' i fyth mohono fo.
Ac wrth feddwl yn ôl rŵan, 'Yr actores o Fôn' - ydach chi'n meddwl fod sgert Elen Roger Jones rywbeth i'w wneud efo'r peth?!
'Ta i ddim i sôn m y dathliadau yn y gwesty wedyn, am resymau amlwg! Ond cyn cloi, mi fyddwn i'n hoffi diolch i bawb a ddymunodd yn dda i mi ac yn enwedig i bawb a ddaeth i Bontyberem o gefnogi; ac i Eryl Williams, Swyddog Datblygu'r Urdd ym môn, am drefnu'r cwbl. Fyddai'r profiad ddim wedi bod hanner cystal heboch chi. A diolch hefyd am y degau o gardiau rwyf wedi'u derbyn - dros gant ohonyn nhw ('toes yna'm rhyfedd fod y post ar streic!) ac am y galwadau ffôn a'r negeseuon testun di-ri'. Ond mae fy niolch pennaf i Catrin, am ei hamser a'i chyfeillgarwch, i Derwena, meistres y gwisgoedd, am fod mor barod i'n nilladu fi bob tro; i Iwan am fy nanfon i nôl a blaen i ymarferion a fy helpu i ddysgu 'ngeiriau; i Heledd am gadw pawb yn gall ynghanol y miri; ac i mam a dad am ...wel, pob dim 'te!
Manon Wyn Williams