Mae pawb sy'n symud i dÅ· newydd angen goriad - ac felly hefyd oedd y sefyllfa pan ddaeth Ficer newydd i blwyf Llangristiolus - roedd angen copi o allwedd arno ar gyfer drws yr Eglwys.
Ond nid goriad cyffredin mohono, roedd hwn yn mesur dros 5 modfedd ac o wnaethuriad haearn trwchus.
Ar ôl troedio nifer o siopau a gwneud ymholiadau lu - roedd yn ymddangos na fyddai hon yn dasg hawdd i'w chyflawni wedi'r cyfan.
Pwy felly oedd am greu a thorri goriad, o'r newydd?
Troi at Sion, o Tan yr Onnen, Pentre Berw fu'n rhaid! Dyn sydd o hyd yn barod lawn ei gymwynas ac yn enwedig ar gyfer unrhyw achos teilwng.
Yn dilyn archwiliad gofalus a manwl o'r goriad, dyma'r hen eiriau cyfarwydd yn cael eu hadrodd o enau y dibynadwy John Pritchard - "Gad o efo fi - tyrd yn ôl wythnos nesaf!"
Un "cloi" ydy John am weithio - oherwydd llai na wythnos yn ddiweddarach roedd y goriad yn barod! Ac fel y gwelwch chi o'r llun, mae o'n gampwaith a llawer iawn o feddwl wedi mynd i'r gwaith ac mae'r goriad hyd yn oed yn well na'r gwreiddiol gyda'r groes a chalon wedi eu hychwanegu at y copi. A'r eglurhad gan y crefftwr, "croes y dioddefaint wedi ei hamgylchynnu â chalon, gwir ystyr o Gariad Crist tuag atom i gyd."
Diolch o "galon" i ti John am fod mor barod dy gymwynas tuag at yr Eglwys. Mae dy garedigrwydd a'th haelioni yn golygu y bydd y Parchedig Emlyn Cadwaladr Williams yn agor drysau Eglwys St Cristiolus yn wythnosol am 11.15 y bore! Ac mae yntau'n teimlo'n 21 eto yn cael goriad newydd!!
Geiriau D.T. Peacock
|