91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Glorian
Y gwch Long Time, a Dewi Hughes Dewi Weldar yn adeiladu cwch swmpus
Chwefror 2008
Er fod llawer o adeiladwyr cychod a llongau o gylch yr ymylon, nid yn aml mae sôn am adeiladu cwch yng nghanol yr ynys fel mae un o hogia'r Gaerwen wedi ei wneud.

Mae tros saith mlynedd bellach er pan gafodd Dewi Hughes (Dewi Weldar fel mae'r rhan fwyaf yn ei adnabod) freuddwyd o adeiladu cwch iddo'i hun. Nid cwch bysgota neu i hwylio o gwmpas y glannau ond un fyddai'n ddigon mawr a chryf i bicio am draethau Ffrainc a Sbaen, a hynny ar dipyn o gyflymdra.

Ar ôl hir bendroni a hel syniadau penderfynodd ar y math oedd ganddo dan sylw a phrynodd gynlluniau CDM (computer design marine) o cyn belled ag Awstralia. Yr oes yma mae cynlluniau yn dod ar ddisg CD yn lle ar ddarnau mawr o bapur fel yn yr hen ddyddiau.

Er mwyn ei chadw cyn ysgafned a phosibl byddai rhaid i'r fframwaith a'r croen allanol i gyd fod mewn alwminiwm. Dechreuodd ar y fframwaith Pasg 2001 a bu'n gweithio'n ddyfal arni fel oedd amser yn caniatáu nes ei chael i'r mor haf y llynedd.

Cafodd pob un darn o'r fframwaith ei ffurfio ar lawr ei weithdy enfawr yn Stad Ddiwydiannol y Gaerwen. Er mwyn hwylustod i weldio a siapio'r croen roedd y corff a'i ben i lawr ar ffrâm arbennig ac edrychai fel morfil mawr wedi ei orffen.

Rhaid oedd wedyn mynd a'r corff allan i'r iard a chael craen anferth i'w godi a'i droi wyneb i fyny er mwyn rhoi y peiriannau i mewn ac adeiladu'r 'superstructure' sef caban, deciau ayyb.

Bellach roedd crefft Dewi, sef weldio a siapio, wedi dod i ben ac yn ofynnol rŵan i gael crefftwr arall i gario ymlaen gyda'r gwaith coed, trydan, addurno seddau ac wrth gwrs ei pheintio.

Y pethau mwyaf amlwg ac yn tynnu sylw ydi'r gwaith coed campus ar y deciau, dodrefn a'r canllawiau o waith Conrad Dare, y gwaith gorchudd ar y seddau gan Don Smith, y gwaith trydan gan Warren Cardwell a'r gwaith paent llyfn fel gwydr oddi allan o waith Dafydd Gilford a Brian Edmonds o Bentre Berw.

Mae'r cwch yn 43 troedfedd o hyd ac yn cael ei yrru gan ddau beiriant Yanmar 450 sydd yn rhoi allan 900 'horse power' gyda chyflymder o 30 knots. Felly ni fydd yn hir yn picio o un wlad i'r llall. Mae wedi ei bedyddio â'r enw 'Long Time' ac ar hyn o bryd mae ym Marina Caergybi.

Ganwyd Dewi yn un o bedwar o blant i'r diweddar Emrys a Nellie Hughes, Fron Gapel, Gaerwen. Derbyniodd ei addysg yn yr ysgol leol ac yn ddiweddarach yn Ysgol Gyfun Llangefni. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn weldio er yn blentyn pan ymwelai a'i gymydog, Ifan Jones, Fron Deg, oedd yn berchen ar welder Oxford Arc. Math oedd yn boblogaidd iawn gan ffermwyr yn y blynyddoedd hynny.

Byddai wrth ei fodd yn cael weldio pethau i Ifan Jones o gwmpas y fferm. Gyda'r diddordeb yma ynddo, nid rhyfedd iddo felly fynd i weithio at EJ Sweeney Heating fel prentis 'Welder and Pipe Fitter'.

Gan ei fod yn mwynhau'r gwaith aeth i goleg i wneud cwrs weldio ym Morth Talbot. Rŵan roedd yn weldar go iawn gydag awydd i weithio gyda phibellau dipyn mwy na rhai gwres canolog. Bu'n gweithio o gwmpas Lloegr a'r Alban i gwmnïau mawr fel Shell, BP, Texaco Refinery yn Sir Benfro ayyb.

Aeth yn ôl wedyn i wneud cwrs 'Pipeline Inspection' yn Blackpool a mynd i weithio dramor i Borneo Indonesia i gwmni Huffco Oil & Gas Pipelines. Dychwelodd i Fôn yn 1984 a phrynu Tŷ'n Berllan ym Mhentre Berw. Yma y gwireddodd ei freuddwyd o ddechrau busnes ei hun.

Golygai hyn ymgymryd a phob math o waith weldio i ffermwyr ac adeiladwyr ac yn eu plith ei hen gyflogwr, EJ Sweeney. Nid oedd ganddo weithdy a byddai yn gorfod gweithio o du ôl ei fan ac yn cael defnyddio gweithdy Pritchard Bros nes iddo allu adeiladu un.

Yn 1986 priododd â Carys o Langefni ac yn ddiweddarach bendithiwyd hwy â dau o blant, sef Rhian ac Aled. Aeth y gweithdy ar y safle Tŷ'n Berllan yn rhy fach a bu rhaid symud i adeilad mwy ar safle Olew Môn, Gaerwen. Yn 1990 symudodd i'r gweithdy presennol ar y Stad Ddiwydiannol. Cafodd waith yn 1992 ym Mhorthladd Caergybi gyda Stena.

Roedd rhannau o gorff alwminiwm y llongau yn cracio dan straen a phwy well i'w weldio na Dewi. Daeth hyn a mwy o waith cyffelyb iddo ac mae bellach yn dilyn gwaith i bob o'r byd gan gynnwys Sbaen, Sweden, Venezuela, Japan, Mauritius ond i enwi rhai.

Erbyn hyn mae tua 18 yn gweithio iddo gan gynnwys Carys ac Aled. Mae'r teulu yn byw ar hyn o bryd yn Glyn Garth, Gaerwen, ond wedi ei newid i'r hen enw sef Bryn Sunsur. Er mai ond 50 oedd Dewi ym mis Hydref, rhywbeth i ymfalchïo'n fawr ynddo ydi gweld bachgen cyffredin o'r Gaerwen wedi cyflawni cymaint yn ei oes.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý