Yn ychwanegol, cawsom y fraint a'r anrhydedd o groesawu Mrs EIsie Jones i ddadorchuddio'r englyn oedd wedi ei naddu ar lechen. Balch iawn oedd Anti EIsie o gael cwmni Jac Jones, yr ieuengaf yn yr ysgol i afael yn ei llaw yn dynn.Dyma hanes y dathlu gan ohebydd yr ysgol - Elin Meredydd 11 oed
Cyngerdd, diwrnod Fictoraidd, parti ac aduniad, dyna beth a gafwyd yn Ysgol Llangaffo yr wythnos diwethaf. Y rheswm? Roedd yr ysgol yn dathlu ei phenblwydd yn 150 oed!
Cyngerdd: I gychwyn y dathliadau cafwyd cyngerdd ar y nos Fercher. Roedd canu caneuon hen ffasiwn a dawnsio gwerin i gyfleu y gorffennol a dawnsio disco ac unawdwyr i gyfleu y presennol a chaneuon Eisteddfod yr Urdd i gyfleu'r dyfodol. Hefyd cafodd plac gyda'r engIyn gan Machraeth ei ddadorchuddio gan Mrs Elsie Jones, cyn ddisgybl o'r ysgol sydd yn 90 oed, a Jac, disgybl fenga'r ysgol sy'n 4 oed. "Mi wnes i fwynhau y plant yn canu a dawnsio yn arw ac mae'n anodd credu bod yr ysgol yn dal yn rhedeg ar ôl 150 o flynyddoedd gan bod nifer y plant yn yr ysgol yn isel gyda dim ond 37 o ddisgyblion", meddai Mrs Jones.
Diwrnod Fictoraidd: Dydd Iau cafwyd diwrnod Fictoraidd ble roedd y plant yn gwisgo i fyny, cael addysg a bwyd Fictoraidd. Hefyd daeth S4C i ffilmio. "Roedd Mr Rowlands yn llym ofnadwy ac roeddwn i a fy ffrind Elin yn blant drwg yn fwriadol i weld beth fasa yn digwydd i ni", meddai Rachel, disgybl 11 oed.
Ymweliad: Ond dim hynny oedd diwedd y dathliadau, o na! Dydd Gwener aeth disgyblion Ysgol Llangaffo ar ymweliad ag Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy. Cafodd y plant weld fideo am Oes Fictoria a daeth dyn o'r enw Mr Williams i gael sgwrs â hwy. Wedyn aethant i weld y bwthyn ble roedd Lloyd George yn byw, Bwthyn Highgate. "Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig i blant wybod sut roedd bywyd yn y cyfnod", meddai Mr Williams.
Ar ôl cinio cafodd y plant fynd i ddosbarth o'r cyfnod Fictoria. "Roedd hi'n brofiad hwyliog", meddai Mared Meredydd ac "Mae gwisgo i fyny yn wych", meddai Alaw Meredydd, disgyblion o'r ysgol.
Y Parti: Ar ôl dychwelyd i'r ysgol cafodd y plant barti annisgwyl. Hefyd roedd arddangosfa i'r cyhoedd a chafwyd aduniad i gyn ddisgyblion. "Cawsom ni frechdanau, creision, bisgedi a llawer mwy yn y parti", meddai Lucy Kelly, disgybl 6 oed oedd yn amlwg wedi mwynhau y parti!
"Roedd yr athrawon wedi hel llawer o luniau ac roedd yr arddangosfa yn werth i'w gweld", meddai Tom Whalley, cyn ddisgybl o'r ysgol.
"Rwy'n falch iawn fod popeth wedi mynd yn iawn a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran ac am yr holl gefnogaeth", meddai prifathrawes yr ysgol, Mrs Ann Roberts.
Elin Meredydd